Grantiau a Chontractiau Ymchwil

FEC Costing Schedule - August 2012 Prifysgol Aberystwyth ar ffurf dogfen Windows Excel

(I'ch cynorthwyo wrth baratoi ffurflenni cais y Cynghorau Ymchwil)

Canllawiau

  • Dylech lwytho’r daenlen Excel i lawr i’ch gyriant caled ac arbed y ffeil gydag enw/cyfeirnod addas sy’n cyfateb i’ch cais.
  • Rhaid llenwi’r daenlen gostau a’i hanfon (yn electronig) i’r Is-adran Grantiau Ymchwil, ynghyd â ffurflen RG1 (pinc) (copi caled) cyn cyflwyno unrhyw gais drwy’r system JeS i’r Cynghorau Ymchwil.
  • Rhaid i’r ymgeiswyr lenwi’r holl adrannau perthnasol sydd wedi’u lliwio’n felyn ar y rhestr gostau hon. Diogelir y weithlen gan gyfrinair ac ni ellir llenwi’r celloedd nad ydynt wedi’u lliwio’n felyn.
  • Nodwch “Ddyddiad Cychwyn” a “Dyddiad Gorffen” y prosiect ar gyfer pob cais (mae hyn yn hanfodol i gyfrifo’r cyflog rhagosodedig a’r costau ystadau a chostau anuniongyrchol).
  • Rhaid dewis yr opsiwn adrannol cywir gan fod cyfraddau ystadau gwahanol ar gyfer adrannau sydd wedi’u lleoli mewn labordai ac adrannau sydd wedi’u lleoli mewn ystafelloedd dosbarth.
  • Dewiswch y math cywir o noddwr o’r gwymplen “Noddwr”. Rhaid llenwi pob blwch perthnasol ar gyfer pob math o noddwr gan fod y Gost Economaidd Gyfan yn parhau’n gyson; “Pris y Contract” sy’n gwahaniaethu o un math o noddwr i’r llall.
  • Rhaid llenwi’r holl gelloedd “Oriau” perthnasol (mae hyn yn hanfodol i gyfrifo’r cyflog rhagosodedig a’r costau ystadau a chostau anuniongyrchol).
  • Nodwch oriau’r Prif Ymchwilydd ac oriau pob Cyd-ymchwilydd bob amser.
  • Dim ond staff nad ydynt yn perthyn i’r sefydliad y dylech eu nodi o dan gostau Staff Uniongyrchol (nid technegwyr, ysgrifenyddion a staff cymorth cyfrifiadurol cyfun), oni bai eu bod yn cael eu hariannu’n allanol.
  • Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw Gostau Eraill a Ddyrennir yn Uniongyrchol ym Mhrifysgol Aberystwyth (telir costau staff cyfun, costau defnyddio cyfleusterau ymchwil a chostau cyfrifiadurol gwasgaredig a chanolog drwy’r costau ystadau a chostau anuniongyrchol).
  • Dylech gynnwys eitemau o offer pwrpasol ar gyfer y prosiect ymchwil sy’n costio £3,000 neu ragor (gan gynnwys TAW), gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer labordy/gweithdy. Fel arfer, dylid ystyried eitemau gwerth llai na £3,000 fel deunyddiau traul.
  • Pan fyddwch yn ymdrin ag offer gwerth dros £50k, rhowch y swm hyd at £50k o dan yr offer safonol a rhowch y balans dros £50k o dan yr eitemau eithriadol.
  • Ni fydd y Cynghorau Ymchwil yn ariannu unrhyw swydd am fwy na chyfnod o 100% ar unrhyw un adeg (gan gynnwys ac yn arbennig ymchwilwyr). Mae 100% yn cyfateb i 1650 o oriau’r flwyddyn (e.e. hyd at 4950 awr dros 3 blynedd).
  • Rhaid rhoi amcangyfrifon realistig o amser ymchwilwyr neu fe allai beryglu’r cais.
  • Pan fyddwch yn ymdrin ag addasiadau â llaw, cysylltwch â’r Is-adran Grantiau a Chontractau Ymchwil i gael costau cyflogau ar gyfer dyddiadau cynyddran ansafonol (mae hyn yn berthnasol i barhad staff presennol lle na fydd y dyddiad cynyddran yn cyfateb i ben-blwydd y grant). Pan fyddwch yn nodi’r costau cyflog y cytunwyd arnynt ar gyfer cymrodorion gwadd, cofiwch gynnwys argostau priodol.
  • Gallwch gyfrifo costau teithio a chynhaliaeth gan ddefnyddio’r daenlen hon. Os yw’r costau wedi’u cyfrifo â llaw, nodwch y ffigur terfynol o dan “Prisiau”.
  • Nodwch gyfanswm costau “deunyddiau traul” yn y celloedd priodol.
  • Nid yw’r Cynghorau Ymchwil wedi cyhoeddi fformat eu ffurflenni cais FEC – dyma awgrym Prifysgol Aberystwyth o’r fformat posibl (gall fod angen ei hailddylunio).