Bwrsariaethau Aberystwyth - Newydd

Mae'r wybodaeth yma ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2012.

 

Yn Aberystwyth rydym wedi ymrwymo cyfran o’n incwm ffioedd i greu cynllun bwrsariaethau er mwyn cynorthwyo myfyrwyr israddedig amser-llawn o bob rhan o’r Deyrnas Unedig [DU] a’r Undeb Ewropeaidd [UE].

Os yw incwm gweddillol eich cartref yn is na £34,090* byddwch yn derbyn bwrsariaeth tuag at eich costau byw. Y trothwy incwm presennol yw:

Incwm Gweddillol

Gwerth Blynyddol

£0 - £18,370

£1,100

£18,371 - £23,610

£950

£23,611 - £28,850

£800

£28,851 - £34,090

£700


Nid oes rhaid i fyfyrwyr o’r DU lenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer y Fwrsariaeth.  Bydd y Brifysgol yn cael copi o asesiad ariannol incwm eich cartref gan eich awdurdod lleol ac yn defnyddio hwn i asesu a ydych yn gymwys i gael bwrsariaeth. Os nad ydych yn gymwys i gael bwrsariaeth wrth gychwyn eich cwrs ond bod incwm eich teulu yn disgyn wedi hynny, bydd modd i chi gael cymorth yn y blynyddoedd dilynol. Mae’n hanfodol felly eich bod yn gwneud cais am gymorth i’ch awdurdod lleol.  Fodd bynnag, os byddwch chi neu’r person a enwir yn Adran 10 ffurflen gais PN1 Cymorth Myfyrwyr yn datgan na ddylid rhannu gwybodaeth am eich hawl i dderbyn cyllid myfyrwyr, golyga hynny na fyddwch yn cael eich ystyried am Fwrsariaeth Aberystwyth.

 

Gwelwch y wefan berthnasol ar gyfer lle rydych yn arfer byw am fanylion ar sut y bydd eich cymhwyster yn cael ei asesu:



Dylai ymgeiswyr o’r Undeb Ewropeaidd sicrhau eu bod wedi cwblhau a dychwelyd y ffurflen perthnasol a fydd yn cael ei hanfon atynt - gwelwch safle gwe DirectGov am fwy o wybodaeth.

 

Telir y fwrsariaeth yn uniongyrchol i chi mewn rhandaliadau drwy gydol y flwyddyn.

 

Rhai o fanteision Bwrsariaethau Aberystwyth

  • Nid oes yn rhaid eu talu’n ôl
  • Maent yn ychwanegol at grantiau a benthyciadau’r llywodraeth, yr Ysgoloriaethau Mynediad, a Bwrsariaethau eraill a weinyddir gan Brifysgol Aberystwyth (ond cânt eu dal yn ôl os bydd y deiliad mewn dyled i’r Brifysgol, a’u gosod yn erbyn y ddyled)
  • Ar gael i’r holl fyfyrwyr amser-llawn sydd fel arfer yn byw yn y DU neu’r UE ac sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod perthnasol am gymorth

 

 * mae’r wybodaeth uchod yn gywir ym mis Gorffennaf 2011.