Cymerwch gipolwg ar y buddion y mae'r Ysgoloriaethau a'r Bwrsariaethau'n eu cynnig, a pha rai y gallech fod yn gymwys i'w cael
Mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth cynhwysfawr o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau a gydnabyddir fel y rhai mwyaf gwerthfawr ym Mhrydain. Mae'n bosib y gallent leihau'r baich ariannol arnoch chi yn sylweddol wrth i chi gael addysg o'r radd flaenaf yn Aberystwyth. Gwelwch ein Cyfrifiannell Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am syniad o beth allwch chi fod yn gymwys i dderbyn.
| Enw'r Wobr | Gwerth | Pwy all ymgeisio
| Meini Prawf | Pryd i wneud cais
| Ffurflen Gais Ychwanegol
|
| Ysgoloriaethau Mynediad |
- £1,000 i £1,200 y flwyddyn
- Cynnig Diamod
- Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs
|
Pawb |
- Rhaid eistedd dau arholiad mewn dau bapur gwahanol
- Cynhelir ar arholiadau ddechrau mis Chwefror a rhaid eu heistedd yn y Brifysgol new mewn ysgol new goleg yn y DU
|
Erbyn 15ed Ionawr |
Oes |
| Gwobrau Teilyngdod |
- £1,000 yn y flwyddyn gyntaf yn unig
- Cynnig Diamod
|
Pawb |
- Rhaid eistedd dau arholiad mewn dau bapur gwahanol
- Cynhelir ar arholiadau ddechrau mis Chwefror a rhaid eu heistedd yn y Brifysgol new mewn ysgol new goleg yn y DU
|
Erbyn 15ed Ionawr |
Oes (ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad) |
| Bwrsariaethau Rhagoriaeth |
- £2,000 dros gyfnod cwrs 3 blynedd
- £2,667 dros gyfnod cwrs 4 blynedd
- £3,334 dros gyfnod cwrs 5 blynedd
- £1,400 dros gyfnod cwrs 2 blynedd
|
Myfyrwyr o'r DU/UE |
- Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' am un o'r cynlluniau cymwys
- Ar gyfer meysydd astudio penodol yn unig
- Rhaid cyflawni 320 pwynt o 3 lefel-A llawn (neu gymhwyster cyfwerth)
|
Dim angen ymgeisio - byddwch yn derbyn y Fwrsariaeth os ydych yn gymwys |
Nac oes |
| Bwrsariaethau Preswyl |
- £400 o ostyngiad oddi ar y ffi breswyl berthnasol (Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol) yn y flwyddyn gyntaf
|
Myfyrwyr o'r DU/UE |
- Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' am un o'r cynlluniau cymwys
|
Dim angen ymgeisio - byddwch yn derbyn y Fwrsariaeth os ydych yn gymwys |
Nac oes |
|
Bwrsariaethau Aberystwyth
|
- £700 i £1,100 y flwyddyn yn dibynnu ar incwm teuluol
|
Myfyrwyr o'r DU/UE |
- Os yw'ch incwm teuluol yn llai na £34,090 byddwch yn derbyn Bwrsariaeth tuag at eich costau byw
|
Dim angen ymgeisio, byddwn yn derbyn y wybodaeth oddi wrth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr |
Nac oes |
| Bwrsariaethau Chwaraeon |
- £500 y flwyddyn
- Aelodaeth am ddim o Glwb Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs
|
Myfyrwyr o'r DU/UE |
- Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' am un o'r cynlluniau cymwys
- Rhaid cyflawni holl delerau'r cynnig yn llawn
|
Erbyn 30ain Mehefin |
Oes |
| Bwrsariaethau Cerdd |
- £500 y flwyddyn (am gyfnod o hyd at 3 blynedd)
- Aeolodaeth am ddim o ensembles y Ganolfan Cerdd
- Defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Cerdd yn rhad ac am ddim
- Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs
|
Pawb |
- Dyfernir ar sail clyweliad cystadleuol mewn offeryn cerddorfaol
|
Erbyn 30ain Mehefin |
Oes |
| Bwrsariaethau Gadael Gofal |
- Bwrsariaeth Lawn - £1,800 y flwyddyn
- Bwrsariaeth Rannol - £1,000 y flwyddyn
|
Myfyrwyr o'r DU |
- Ar gyfer myfyrwyr o dan 24 oed, sydd wedi bod mewn gofal am gyfnod o 3 mis neu'n fwy cyn eu pen-blwydd yn 16
- Rhaid cyflawni holl delerau'r cynnig yn llawn
|
Unrhyw amser cyn dechrau'r cwrs |
Oes |
Er nid yw'n bosibl dal Ysgoloriaeth Mynediad neu Wobr Teilyngdod ar y cyd gyda Bwrsariaeth Rhagoriaeth, gallwch ddal unrhyw un o'r gwobrau yna ynghyd ag unrhyw nifer o'n Bwrsariaethau eraill.