Bwrsariaethau Gadael Gofal

Y mae Prifysgol Aberystwyth yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol sy’n wynebu myfyrwyr a fu mewn Gofal ac sy’n mynd ymlaen i addysg uwch. Er mwyn lleddfu’r pwysau ariannol, mae’n bleser gennym gyflwyno’r canlynol:

  • Bwrsariaeth Lawn i’r rhai sy’n Gadael Gofal - £1,800 y flwyddyn*
    Maen prawf:
    Myfyrwyr o dan 24 sy’n gallu dangos iddynt fod mewn Gofal am gyfnod o 6 mis neu fwy cyn eu pen-blwydd yn 16eg.
  • Bwrsariaeth Rannol i’r rhai sy’n Gadael Gofal - £1,000 y flwyddyn **
    Maen prawf:
    Myfyrwyr o dan 24 sy’n gallu dangos iddynt fod mewn Gofal am gyfnod o 3-6 mis cyn eu pen-blwydd yn 16eg.

* Seilir y cyfanswm ar gostau tybiedig am gyfnodau gwyliau o £75.25 x 20 wythnos = £1505 + £295 costau ychwanegol am eitemau ar gyfer byw yn annibynnol, er enghraifft dillad gwely, cyfarpar tŷ, llyfrau cwrs a deunydd astudio arall. Rhagdybir y bydd myfyrwyr yn dod o hyd i waith yn y gwyliau i dalu costau byw ychwanegol.

** Seilir y cyfanswm ar ddealltwriaeth y byddai addysg pobl ifanc a fu mewn Gofal yn achlysurol neu am gyfnod o 3-6 mis yn debygol o fod wedi ei amharu, yn ogystal ag agweddau eraill ar eu bywyd. Byddai’r fwrsariaeth hon yn rhoi ffordd iddynt fyw yn y Brifysgol am ran o gyfnod y gwyliau a’u rhoi mewn sefyllfa i fod yn annibynnol pe byddent yn dymuno.

Mae myfyrwyr sy'n derbyn Bwrsariaeth Gadael Gofal hefyd yn derbyn sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol am y cwrs cyfan.  Er mwyn cadarnhau eich gwarant o le yn llety'r Brifysgol, mae'n rhaid i chi wneud cais am lety ar gyfer y flwyddyn academaidd canlynol o fewn y dyddiadau a hysbysebir gan y Swyddfa Llety ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd.

  1. Dyfernir y bwrsariaethau i unrhyw israddedigion cymwys amser llawn o’r DU sy’n cyflawni telerau’r cynnig, heb ystyried y flwyddyn mynediad, ac y mae’n ychwanegol i unrhyw fath arall o gymorth statudol neu sefydliadol.
  2. Dyrennir y Bwrsariaethau gan Banel Gwobrwyo’r Brifysgol, a chan y Panel y mae’r gair olaf. 
  3. Mae’r Fwrsariaeth i’w dal am gyfnod cyfan y cwrs astudio ac mae’n amodol ar gynnydd academaidd boddhaol.

Cysylltwch â’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol os ydych yn gymwys i gael Bwrsariaeth Gadael Gofal - Ffôn: 01970 621890 / Ebost: wpsi@aber.ac.uk