Yn ogystal â chynnig Bwrsariathau rhagorol ac Ysgoloriaethau gwych, gall nifer o'n hadrannau academaidd hefyd gynnig cymorth ariannol i chi
Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Bwrsariaethau Rhagoriaeth Daearyddiaeth Ddynol
Gwerth: £2,000 (£667 y flwyddyn dros gyfnod o 3 blynedd).
Dyfernir lleiafswm o 5 gwobr y flwyddyn i ymgeiswyr Anrhydedd Sengl, Anrhydedd Cyfun neu Prif Bwnc/Isbwnc sy'n dewis Aberystwyth fel dewis cadarn ac sy'n llwyddo i fod ymhlith y pump uchaf o ran pwyntiau.
Am fanylion pellach, cysylltwch â'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol
Ysgoloriaethau Sefydliadol i astudio Ffiseg a Mathemateg
Gwerth: £500 y flwyddyn am gwrs anrhydedd sengl, £250 y flwyddyn am gwrs anrhydedd cyfun.
Er mwyn bod yn gymwys am Ysgoloriaeth Sefydliadol dylai ymgeisydd fod ag Ysgoloriaeth Fynediad y Brifysgol, neu fod ag o leiaf dwy radd A* yn ei arholiadau Safon Uwch, a rhaid i un ohonynt fod yn Ffiseg neu Fathemateg. Lefel y wobr yw £500 am dair/pedair blynedd (cyfanswm o £1,500 - £2,000). Cedwir y wobr trwy gael cyfartaledd o 70% neu fwy ar gyfer y modiwlau Mathemateg a Ffiseg bob blwyddyn. Mae myfyrwyr Anrhydedd Cyfun yn gymwys am £250 y flwyddyn.
Am fanylion pellach, cysylltwch â'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.