Ysgoloriaethau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod

Ers ei sefydlu ym 1872, mae'r Brifysgol wedi cael nifer o roddion ariannol hael sy'n ei gwneud hi'n bosib iddi roi cymorth ariannol i fyfyrwyr drwy ddyfarnu oddeutu 50 o Ysgoloriaethau Mynediad ac oddeutu 250 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn.

A ydych chi'n credu bod eich ymdrechion academaidd caled hyd yma'n haeddu cydnabyddiaeth?  Os felly, dylech ystyried gwneud cais am ein Hysgoloriaethau Mynediad a'n Gwobrau Teilyngdod.  Mae ennill Ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r buddion hyn i chi:

  • Hyd at £1,200 BOB BLWYDDYN o'ch astudiaethau

  • Sicrwydd cynnig DIAMOD i astudio â ni

  • GWARANT o lety yn un o neuaddau'r Brifysgol drwy gydol eich cwrs

Mae myfyrwyr nad ydynt yn cael Ysgoloriaeth, ond y mae eu perfformiad yn yr arholiadau hyn yn haeddu cydnabyddiaeth, yn cael cynnig Gwobrau Teilyngdod sy'n cynnwys: £1,000, sy'n cael ei dalu yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf, ynghyd â chynnig Diamod.

Sut yr wyf yn ymgeisio?

  • Mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaethau Mynediad a'r Gwobrau Teilyngdod yn gofyn i chi sefyll dau arholiad mewn dau bwnc gwahanol - gellir dewis o blith 36 o bynciau
  • Cynhelir yr arholiadau ym mis Chwefror bob blwyddyn, ac mae modd eu sefyll naill ai yn Aberystwyth neu yn eich ysgol neu goleg.
  • Bydd yn rhaid i chi anfon Ffurflen Gais yr Ysgoloriaethau Mynediad atom erbyn y 15fed o Ionawr.  Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais.  Cysylltwch â ni un wythnos ar ôl anfon eich ffurflen gais os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth - dyma'r unig brawf sydd gennych fod eich ffurflen wedi ein cyrraedd.
    Cadarnhaf fy mod wedi darllen a deall yr uchod ag fy mod am lawrlwytho copi o'r ffuflen gais
  • Gwnewch yn siwr eich bod chi a'ch Swyddog Arholiadau yn ymwybodol o drefniadau'r arholiadau, pa bapurau arholiad y byddwch chi'n eistedd ayb.
  • Dyma ddyddiadau'r arholiadau yn 2013 :

Dydd Mawrth yr 5ed, Dydd Mercher y 6ed a Dydd Iau'r 7fed o Chwefror

Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

 

Ffurflen Gais am Ysgoloriaeth Mynediad