Papurau newydd mewn Hanes a Seicoleg ar gyfer 2009
Hanes
Mae dau bapur newydd mewn Hanes wedi disodli’r hen bapur arholiadau Hanes yng nghystadleuaeth yr Ysgoloriaethau Mynediad:
Gall ymgeiswyr sefyll y papurau hyn:
i. Hanes – Ynysoedd Prydain
ii. Hanes – Ewrop ac America
iii. Y ddau bapur
Bydd pa bapur ysgoloriaeth a ddewisir yn dibynnu ar brofiad blaenorol o hanes Safon Uwch, a rennir yn gyffredinol i’r categorïau uchod, ac ar y rhaglen radd y mae’r ymgeisydd yn bwriadu ei dilyn, gan fod yr adran yn cynnig graddau mewn hanes a hanes Ewrop. Mae croeso i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am raddau hanes cyffredinol sefyll y ddau bapur.
Mae’r papur ‘Hanes – Ynysoedd Prydain’ yn trafod hanes Prydain, Cymru ac Iwerddon.
Mae’r papur ‘Hanes – Ewrop ac America’ yn trafod hanes Ewrop (ac eithrio Prydain) a’r Unol Daleithiau. Bydd rhai cwestiynau’n caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio tystiolaeth o unrhyw wlad yn Ewrop, ond ceir cwestiynau penodol ar Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Rwsia.
Bydd pob papur yn cynnwys tua 30 cwestiwn, wedi’u rhannu’n ddwy adran. Bydd ymgeiswyr yn ateb un cwestiwn o Adran A ac un cwestiwn o Adran B.
Bydd Adran A yn cynnwys cwestiynau hanesyddol cyffredinol. Mae’r adran hon yn gyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu ymdrin yn wybodus a threfnus â heriau ehangach astudio hanes. Cynghorir myfyrwyr y dylai atebion ddangos ôl meddwl difrifol ac eang, a chynnwys enghreifftiau perthnasol o wybodaeth hanesyddol yr ymgeisydd.
Bydd Adran B yn cynnwys amrywiaeth eang o gwestiynau o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, wedi’u gosod yn nhrefn amser.
Gall ysgrifenyddes ysgoloriaethau’r adran roi cyngor ar y papur(au) mwyaf addas ar gyfer pob ymgeisydd.
Seicoleg
Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno papur arholiad mewn Seicoleg er mwyn darparu cyfle i fyfyrwyr dangos eu potensial i feddwl a datblygu dadlau o natur seicolegol. Bydd y papur yn cyfleu "seicoleg yn y byd go iawn".
Cliciwch yma i weld Papur enghreifftiol ar gyfer Seicoleg (PDF).
Bydd y cwestiynau ar y papur yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o seicoleg a’r trafodaethau sy’n gysylltiedig â’r maes. Amcanion y papur yw:
- Asesu gwybodaeth yr ymgeiswyr am seicoleg a/neu eu gallu i archwilio a thrafod rhai o’r materion cyffredinol sy’n ymwneud â seicoleg.
- Profi gallu’r ymgeiswyr i ysgrifennu traethodau, i ganfod y dadleuon a dangos eu sgiliau dadansoddi.
Mae dwy adran i’r papur. Yn Adran A (20% o’r marc cyfan) gofynnir i ymgeiswyr ateb cyfres o gwestiynau yn gysylltiedig ag astudiaethau ymchwil. Yn Adran B bydd ymgeiswyr yn ateb dau gwestiwn traethawd o ddewis o chwech (80% o’r marc cyfan). Cynlluniwyd y papur i asesu addewid yr ymgeisydd i astudio seicoleg ar lefel israddedig ac y mae’n addas i ymgeiswyr sy’n astudio am lefel A ac i rai sydd â diddordeb gwirioneddol yn y maes ond heb wybodaeth uniongyrchol am y pwnc.