Arholiadau'r Ysgoloriaethau Mynediad: Cynllun Marcio

Nid yw’r raddfa marcio yn gysylltiedig â graddau Lefel-A, a’i bwriad yw bod yn ganllaw cyffredinol yn unig.  Ni fydd yr holl feini prawf o angenrheidrwydd yn berthnasol i bob pwnc.

 

Marc (Canran)Safon Angenrheidiol
80% - 100% Gwreiddioldeb, dirnadaeth, gallu beirniadol.  Cynnwys ardderchog, ychydig iawn o gamgymeriadau, gwybodaeth dda o egwyddorion a chysyniadau’r pwnc.  Dylai safbwyntiau’r ymgeiswyr eu hunain fod yn amlwg.  Cyflwyniad rhagorol (dilyniant rhesymegol, rhannu deunydd yn synhwyrol, arddull eglur).  Dadansoddi a dehongli ardderchog.
70% - 79%

Tystiolaeth o ddealltwriaeth a dirnadaeth.  Cynnwys da iawn, ychydig o gamgymeriadau.  Cyflwyniad da a mynegiant clir.  Dadansoddi a dehongli da.

60% - 69%

Addewid i’r dyfodol.  Cynnwys da, ychydig o gamgymeriadau ar y cyfan, wedi cynnwys pwyntiau perthnasol.  Peth tystiolaeth o ddealltwriaeth a dirnadaeth.  Cyflwyniad boddhaol.  Gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth.

55% - 59%

Gwybodaeth gadarn o ffeithiau ac egwyddorion, wedi cynnwys y rhan fwyaf o’r pwyntiau, ond rhai camgymeriadau a rhai pethau wedi eu gadael allan.  Cyflwyniad rhesymol.  Gallu gwerthuso gwybodaeth.

0% - 54% Diffygion yn y cynnwys, aneglur ar adegau, ychydig iawn o dystiolaeth o ddealltwriaeth gyson.  Camgymeriadau aml, wedi hepgor gwybodaeth, cyflwyniad gwan.

 

Nodwch, os gwelwch yn dda, nid yw'n bosibl i ni ddychwelyd sgriptiau arholiad.