Nodiadau ar y dull o gynnal arholiadau'r Ysgoloriaethau Mynediad

  • Gall ymgeiswyr ddewis sefyll yr arholiadau naill ai yn eu Hysgol/Coleg neu yn Aberystwyth.
  • Gofynnwyd i ymgeiswyr roi gwybod i’w Swyddog Arholiadau am eu bwriad o sefyll yr arholiadau hyn yn yr Ysgol/Coleg.
  • Os nad yw’r Swyddog Arholiadau yn gwybod am yr ymgeiswyr hyn dylent gysylltu â’r Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr (gweler manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen hon).

 

CYFFREDINOL
  • Dylid cynnal yr arholiadau yn unol â'r modd y caiff arholiadau cyhoeddus eraill, megis rhai Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, eu cynnal.
  • Bydd pob papur yn para 2 awr.
  • Dylai ymgeiswyr sydd ag anghenion arbennig fod wedi cysylltu â’r Brifysgol ymlaen llaw, i amlinellu’r anghenion hynny – caniateir 25% o amser ychwanegol i ymgeiswyr cymwys.

 

1.     Goruchwylio

  • Os oes mwy nag un ymgeisydd, bydd yn rhaid cael Goruchwyliwr yn bresennol yn yr ystafell arholiad trwy gydol pob sesiwn. 
  • Os na fydd mwy nag un ymgeisydd, dylid goruchwylio rhyw gymaint, ond nid oes rhaid i rywun fod yn bresennol drwy'r amser.
  • Nid yw'r Brifysgol yn gallu cyfrannu at unrhyw gostau goruchwylio.

 

2.     Ymddwyn yn annheg

        Bydd unrhyw ymgeisydd a fydd yn ymddwyn neu yn ceisio ymddwyn yn annheg mewn unrhyw ffordd yn yr arholiad yn cael ei ddiarddel.  Os gwelir ymgeisydd yn copïo o bapurau ymgeisydd arall neu'n cael unrhyw gymorth gan ymgeisydd arall, neu'n ceisio dod ag unrhyw lyfr neu lawysgrif nas awdurdodwyd i mewn i'r ystafell arholiad, dylid hysbysu Cofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol ynghylch y digwyddiad hwnnw. 

 

3.     Nodwch,y rheolau canlynol ar gyfer pynciau penodol, os gwelwch yn dda:

  • Astudiaethau Busnes a Rheolaeth – caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn an-rhaglenadwy.
  • Astudiaethau CrefyddNI CHANIATEIRBeiblau, yn cynnwys Apocryffa, yn yr arholiad.
  • Astudiaethau Ffilm a TheleduNID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau i mewn i’r arholiad hwn.
  • Celf – Archwiliad Portffolio – gofynnir i ymgeiswyr gysylltu â’r Ysgol Gelf i drefnu Archwiliad Portffolio cyn dyddiad olaf arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad.
  • Cemeg – Darperir Tabl Cyfnodol, a chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifiannell (cyn belled â’i bod yn un tawel, hunan-bweru, heb adnoddau cyfathrebu, na allant ddal testun na deunydd arall).
  • Cyfrifeg a Chyllid – Caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn an-rhaglenadwy.
  • Cymraeg (IG a IF)NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau na geiriaduron i’r arholiad.
  • Daearyddiaeth (Dynol a Ffisegol)  NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod ag atlas i mewn i’r arholiad hwn.
  • Drama - NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau i mewn i’r arholiad hwn.
  • Economeg – caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn an-rhaglenadwy.
  • Ffiseg – Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn arholiadau gan eu bwrdd arholi.  Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifiannell (cyn belled â’i bod yn un tawel, hunan-bweru, heb adnoddau cyfathrebu, na allant ddal testun na deunydd arall).
  • Ffrangeg - Dylai ymgeiswyr ateb pob adran o’r papur mewn llyfr ateb gwahanol.
  • Ieithoedd Ewropeaidd (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg)NI chaniateir defnyddio geiriaduron.
  • Mathemateg - Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (cyn belled â’u bod yn rhai tawel, hunan-bweru, heb adnoddau cyfathrebu, na allant ddal testun na deunydd arall), dylai ymgeiswyr ddarparu eu cyfrifianellau eu hunain.  Caiff ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw 'Lyfrynnau Gwybodaeth Mathemateg' sydd wedi eu cymeradwyo gan eu bwrdd arholi ar gyfer arholiad.  Dylai ymgeiswyr ateb pob adran o’r papur mewn llyfr ateb gwahanol.
  • Saesneg a Saesneg ac Ysgrifennu CreadigolNI CHANIATEIR i ymgeiswyr fynd â chopïau o destunau i mewn i’r arholiad.

 

4.     Amserlen

  • Dylid cadw at yr amserlen. 
  • Dim ond ar y diwrnod a bennwyd ar yr amserlen ar gyfer arholiad y caniateir sefyll yr arholiad - NI ELLIR newid hwn oni bai am amgylchiadau arbennig, a chyda caniatad y Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr. 
  • Os yw un o’r arholiadau ar yr amserlen yn gwrthdaro ag un o arholiadau’r ysgol neu arholiad cyhoeddus, gellir symud Arholiad yr Ysgoloriaeth i’r bore neu’r prynhawn ar yr un dydd.  Mewn achos o’r fath bydd rhaid goruchwylio ymgeisydd yn ystod yr awr ginio, er mwyn sicrhau na thorrir rheolau cyfrinachedd. 
  • Er mwyn cydymffurfio ag amserlenni Ysgolion a Cholegau ledled Prydain, gellid trefnu i ddechrau sesiynau arholiad rhwng 8.30am a 10.00am, a 12.00pm a 1.30pm.
  • Mae'n hanfodol bod yr ymgeiswyr yn cael y cyfnod penodedig yn llawn er mwyn cwblhau eu gwaith ar gyfer pob papur. Oni chafwyd trafferth i ddeall y cyfarwyddiadau ar y papurau, ni ddylid caniatáu amser ychwanegol i fyfyrwyr ddarllen trwy'r cwestiynau.

 

5.     Caniatáu mynediad i ymgeiswyr

        Ni chaniateir i unrhyw ymgeisydd ddod i mewn i'r ystafell arholiad fwy na hanner awr ar ôl dechrau'r sesiwn.  Ni chaniateir i unrhyw ymgeisydd adael yr ystafell arholiad nes i awr fynd heibio ar ôl dechrau'r sesiwn.  Ni ellir cyfiawnhau na rhoi ystyriaeth arbennig i neb am resymau megis anghofio, camddarllen yr amserlen, neu gamgymeriad.

 

6.     Papurau cwestiynau

(a)   Anfonir digon o bapurau cwestiynau ar gyfer yr holl ymgeiswyr, ynghyd â llyfrau ateb, rhestrau presenoldeb, amlenni printiedig er mwyn postio’r sgriptiau yn ôl, cerdyn cydnabod, papur graff, a thystysgrif postio, er mwyn cyrraedd yr Ysgol/Coleg tua phedwar diwrnod cyn i’r arholiadau ddechrau.

 (b)  Dylid agor y parseli ar unwaith ar ôl eu derbyn. Nid yw hynny’n arferol yn y rhan fwyaf o arholiadau ond mae hi’n gallu bod o gymorth wrth ymdrin â’r trefniadau hyn. Dylid agor y pecynnau sy'n cynnwys y papurau yn syth er mwyn bod yn sicr eu bod yn cynnwys:

(i) papurau cywir ar gyfer pob ymgeisydd;

(ii) bod pob copi o'r papurau yn gyflawn.

 (c)   Rhaid cymryd gofal digonol i ddiogelu'r papurau cwestiynau.  Os oes papurau ar goll, yn anghywir neu'n anghyflawn, cysylltwch â’r Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr, ffôn (01970) 622065 neu ffacs (01970) 621554.  Cynghorir chi i ddod o hyd i rif y peiriant ffacs agosaf. Gall hyn arbed amser os bydd angen anfon papur arholiad atoch ar fyrder.  Dylid ail-selio'r amlenni, ac ni ddylid eu hagor eto tan bum munud cyn dechrau'r arholiad, a hynny fel arfer yn yr ystafell arholiad yng ngydd yr ymgeiswyr. 

 

7.             Llyfrau Ateb

                Mae’r Brifysgol yn darparu llyfrau ateb.  Rhaid ysgrifennu atebion i bob pwnc mewn llyfr newydd.  Dylid nodi rhif y cwestiwn yn glir, a dylai ymgeiswyr ysgrifennu ar ddwy ochr y dalennau.  Rhaid gwneud yr holl waith, gan gynnwys unrhyw nodiadau paratoi, mewn llyfr ateb; gellir croesi nodiadau allan yn ysgafn.  Ni ddylid rhoi papur arall o unrhyw fath i ymgeiswyr ar gyfer gwneud nodiadau paratoi.  Os oes gan ymgeiswyr angen mwy o bapur i orffen eu hatebion, dylai’r Ysgol/Coleg ddefnyddio papur A4 a llinellau arno.  Ni chaniateir mewn unrhyw amgylchiadau i ymgeiswyr fynd â llyfr ateb allan o'r ystafell arholiad, boed hwnnw wedi ei ddefnyddio ai peidio.  Gellir cadw’r papurau cwestiynau.

 

       Ar ddiwedd pob sesiwn dylid rhoi'r cyfarwyddiadau canlynol i ymgeiswyr:

(a)   sicrhau eu bod wedi rhoi'r wybodaeth gywir ar bob llyfr ateb a ddefnyddiwyd ganddynt; dylai'r wybodaeth gynnwys EU HENWAU'N LLAWN, ENW'R YSGOL/COLEG A PHWNC YR ARHOLIAD.

(b)   os oes mwy nag un llyfr yn perthyn i'r un papur, rhaid eu clymu at ei gilydd â'r tag.

 

8.     Anfon y sgriptiau yn ôl i’r Brifysgol

(a)   Dylid rhoi sgriptiau’r papurau yn yr un drefn ag y mae enwau'r ymgeiswyr yn ymddangos ar y Rhestr Bresenoldeb, a'u hanfon yn ôl ynghyd â Rhestr Bresenoldeb wedi ei chwblhau a'i llofnodi gan y Prifathro neu'r Swyddog Arholiadau.

(b)   Gellir anfon y sgriptiau yn ôl gan ddefnyddio post cofrestredig neu dystysgrif postio.  Sicrhewch fod y sgriptiau wedi eu selio/lapio yn hollol dynn, yn enwedig os oes nifer fawr ohonynt i'w hanfon yn ôl.  Bydd amlenni printiedig â chyfeiriad y brifysgol  arnynt yn cael eu hamgáu gyda'r papurau arholiad.

(c)   Os bydd unrhyw ymgeisydd y cofnodwyd ei enw/henw ar gyfer arholiad yn absennol, dylid nodi'r gair 'Absennol' gogyfer â'r enw ar y Rhestr Bresenoldeb.

(ch) Os na fydd unrhyw sgriptiau i'w hanfon yn ôl am fod yr holl ymgeiswyr yn absennol, dylid anfon y Rhestr Bresenoldeb, yn dynodi hyn, yn ôl i'r Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr.

(d)     Os yw Ysgol/Coleg eisiau derbyn cydnabyddiaeth bod y Sgriptiau wedi cyrraedd yn ddiogel, dylent lenwi’r cerdyn post cydnabod a'i anfon yn ôl gyda'r sgriptiau.  Sicrhewch eich bod yn cynnwys tâl postio digonol, os gwelwch yn dda.

(dd) Gall yr Ysgol/Coleg gadw’r sgriptiau nes i’r holl bapurau gael eu sefyll, neu gellir eu postio nôl i’r Brifysgol yn ddyddiol.

 

9.     Papurau cwestiynau a phapur ysgrifennu dros ben

        Gall yr Ysgolion/Colegau gadw unrhyw lyfrau ateb a phapurau cwestiynau sydd dros ben.  Mae hyn yn cynnwys papurau cwestiynau a dderbyniwyd ar bynciau nad oedd eu hangen.

 

CANLYNIADAU

Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod erbyn diwedd  mis Mawrth a ydynt wedi llwyddo yn yr arholiadau ai peidio.  Anfonir rhestr gyflawn o enwau'r ymgeiswyr llwyddiannus i Ysgolion a Cholegau ar yr un pryd.  Cyhoeddir rhestr o enwau’r Ysgolwyr yn y wasg, ac enwau’r holl ymgeiswyr llwyddiannus ar safle gwe’r Brifysgol ym mis Mai.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiad yn gysylltiedig â'r Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad, cysylltwch â:

Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Groeso i Fyfyrwyr, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FB.  Ffôn: 01970 622065; Ffacs: 01970 621554; Ebost: marchnata@aber.ac.uk

 

Rhagfyr 2012