Dylech nodi’r rheoliadau canlynol sy’n ymwneud gydag arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad:
Astudiaethau Crefydd – NI CHANIATEIR defnyddio Beiblau yn yr arholiad.
Astudiaethau Ffilm a Theledu – NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau i mewn i’r arholiad hwn.
Busnes a Rheolaeth – caniateir defnyddio cyfrifiannell nad oes modd ei rhaglennu.
Celf – Ystyried Portffolio – gofynnir i ymgeiswyr gysylltu â’r Ysgol Gelf i drefnu i’w Portffolio gael ystyriaeth cyn dyddiad olaf arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad.
Cemeg – Darperir Tabl Cyfnodol, a chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifiannell.
Cyfrifeg a Chyllid – Caniateir defnyddio cyfrifiannell nad oes modd ei rhaglennu.
Cymraeg (IG ac IF) – NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau na geiriaduron i’r arholiad.
Daearyddiaeth (Ddynol a Ffisegol) – NI chaniateir defnyddio atlas.
Drama - NID oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau i mewn i’r arholiad hwn.
Economeg – caniateir defnyddio cyfrifiannell nad oes modd ei rhaglennu.
Ffiseg – darperir yr holl wybodaeth berthnasol yn y papur, ond chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn arholiadau gan eu bwrdd arholi os dymunant. Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (cyn belled â’u bod yn ddistaw, heb angen ffynhonnell allanol o drydan, heb ddulliau cyfathrebu arnynt, ac na allant ddal testun nau ddeunydd arall).
Ffrangeg - Dylai ymgeiswyr defnyddio llyfrynnau ateb ar wahân ar gyfer adrannau gwahanol o’r papur, os yw cyfarwyddiadau’r papur yn nodi hynny.
Ieithoedd Ewropeaidd(Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg) – NI chaniateir defnyddio geiriaduron.
Mathemateg - caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (cyn belled â’u bod yn ddistaw, heb angen ffynhonnell allanol o drydan, heb ddulliau cyfathrebu arnynt, ac na allant ddal testun nau ddeunydd arall), a’r ymgeiswyr ddylai ddarparu’r eu cyfrifianellau eu hun. Caiff ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw 'Lyfrynnau Gwybodaeth' sydd wedi eu cymeradwyo gan eu bwrdd arholi ar gyfer arholiadau. (Darperir Llyfryn Tablau Ystadegol gan y Brifysgol). Dylai ymgeiswyr defnyddio llyfrynnau ateb ar wahân ar gyfer adrannau gwahanol o’r papur, os yw cyfarwyddiadau’r papur yn nodi hynny.
Saesneg a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol – NI CHANIATEIRi ymgeiswyr fynd â chopïau o destunau i mewn i’r arholiad.