Gwybodaeth am Ysgoloriaethau Mynediad i Ysgolion a Cholegau
Hoffem ddiolch i chi am ystyried caniatáu eich myfyrwyr i sefyll arholiadau'r Ysgoloriaethau Mynediad yn eich ysgol/goleg. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl sefydliadau a gytunodd i gynnal yr arholiadau a byddwn yn ceisio gwneud hyn gan darfu cyn lleied ar bethau â phosib. Mae gan Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth traddodiad hir ac maent yn uchel eu parch - mae llwyddiant yn dod â chydnabyddiaeth i fyfyrwyr, a'u hysgolion/colegau.
Nod y dudalen hon yw rhoi gwybodaeth am y modd y mae'r Ysgoloriaethau Mynediad yn cael eu gweinyddu a'r hyn y byddwn yn gofyn i chi ei wneud a phryd.
Bydd unrhyw wybodaeth a all godi ynglyn â'r arholiadau, e.e. beth i'w wneud mewn tywydd garw, newidiadau i bapurau cwestiynau, ac ati, yn cael ei rhoi yma pan fydd angen. Felly, byddai'n syniad ddarllen y wybodaeth hon, ac ail-ymweld â'r tudalen yma yn gysgon yn y cyfnod cyn yr arholiadau.
Amserlen:
| Dyddiad | Beth sy'n digwydd |
|---|---|
| Medi - Ionawr | Myfyrwyr yn gofyn am ganiatâd gan eu Pennaeth a'r Swyddog Arholiadau i sefyll yr arholiadau yn eich ysgol/coleg. |
| 15fed Ionawr fan bellaf |
Myfyrwyr yn dychwelyd y ffurflenni cais i'r Brifysgol. Anghenion arbennig: Gofynnir i fyfyrwyr rhoi gwybod i ni a’u Swyddog Arholiadau os ydynt â hawl i amser ychwanegol yn eu harholiadau. Lle mae Myfyrwyr yn cael 25% o amser ychwanegol ar gyfer arholiadau allanol, byddant yn gymwys am yr un peth yn yr arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad (hynny yw 2½ awr i bob papur, yn lle 2 awr). Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr yr hawl i drefniadau arbennig eraill fel yn eu harholiadau allanol (e.e. defnyddio prosesydd geiriau / sgrifellwr). Bydd angen llythyr byr o gadarnhad o’r anghenion o’r ysgol/coleg - gellir postio/ffacsio/e-bostio hwnna atom. |
| Diwedd Ionawr |
Bydd y Brifysgol yn anfon yr holl ddeunyddiau angenrheidio at y Swyddogion Arholiadau, h.y.
|
| 7, 6 a 7 Chwefror |
Cynnal yr arholiadau (Gwybodaeth pwysig os bydd eich ysgol/coleg yn cael eu effeithio gan dywydd gaeafol) |
| 5, 6 a 7 Chwefror | Swyddogion yr Arholiadau'n dychweldyd y papurau i'r Brifysgol (nid oes angen dychwelyd y papurau cwestiynau na'r llyfrau ateb nas defnyddiwyd). |
| Diwedd Mawrth | Bydd y Brifysgol yn ysgrifennu at yr holl ymgeiswyr a'u Penaethiaid yn dweud wrthynt a ydynt wedi llwyddo yn yr arholiadau ai peidio. |
| Ganol Ebrill | Pan fyddwn wedi cael ymateb oddi wrth bob ymgeisydd, byddwn yn cyhoeddi enwau'r Ysgolheigion ac enwau eu hysgolion/colegau yn y wasg genedlaethol ac ar ein gwefan. Yn ogystal â hynny, cyhoeddir enwau deiliaid y Gwobrau Teilyngdod (yr ymgeiswyr hynny na chafodd Ysgoloriaeth ond yr oedd eu perfformiad yn y gystadleuaeth yn ddigon teilwng i gael cydnabyddiaeth) ac enwau eu hysgolion/colegau ar ein gwefan. |
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni.