Gwybodaeth bwysig ar beth i wneud os ydych ysgol/coleg yn gorfod cau
Trefniadau ar gyfer tywydd garw
Os bydd eich ysgol/coleg wedi cau ar unrhyw un o ddyddiadau arholiadau’r ysgoloriaethau mynediad, byddwn yn caniatau i ymgeiswyr sefyll unrhyw arholiadau a fethwyd yn union wedi i’r ysgol/coleg ail-agor.
Os ydy eich ysgol/coleg ar agor ond nad ydy’r ymgeiswyr yn medru cyrraedd yr ysgol oherwydd tywydd gwael, dylid gwneud trefniadau yn lleol. Disgwyliwn i ymgeiswyr fynychu ble mae’n bosib cyn gynted ag y bydd yr ysgol / coleg yn ail-agor. Mewn achosion gwirioneddol lle nad yw hyn y bosib, dylai ysgolion/colegau gynnwys llythyr gyda phapurau arholiadau’r ymgeiswyr unwaith y byddant wedi eu sefyll, yn cadarnhau nad ydynt wedi trafod cynnwys y papurau arholiad gydag unrhyw un.
Os ydych yn cael eich effeithio, dylech gysylltu â’r Swyddfa Recriwtio a Marchnata – ffôn: 01970 622 065 neu ebost: marchnata@aber.ac.uk er mwyn rhoi gwybod i ni.