Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau

Bwrsariaethau Rhagoriaeth mewn Pynciau Penodol

Mae Bwrsariaethau Rhagoriaeth Prifysgol Aberystwyth ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd fel arfer yn byw yn y DU/UE sy'n cofrestru i astudio pynciau penodol yn Aberystwyth. Diben y Bwrsariaethau Rhagoriaeth hyn yw gwobrwyo llwyddiant academaidd cyn cyrraedd y brifysgol.

Mae Bwrsariaethau Rhagoriaeth werth cyfanswm o:

  • £2 000 dros gyfnod cwrs 3 blynedd
  • £2 667 dros gyfnod cwrs 4 blynedd
  • £3 334 dros gyfnod cwrs 5 blynedd
  • £1 400 dros gyfnod arferol Graddau Sylfaen 2 flynedd.

Mae Bwrsariaethau Rhagoriaeth ar gael i fyfyrwyr sy'n cofrestru ar gynllun gradd neu ddiploma yn y meysydd canlynol: Amaethyddiaeth a'r Gwyddorau Gwledig, Gwyddor Anifeiliaid a Gwyddor Ceffylau, Gwyddorau Biolegol, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd, Mathemateg ac Ystadegaeth, Gwyddorau Ffisegol, Daearyddiaeth Ffisegol, Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol, Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ieithoedd Ewropeaidd hynny yw Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Cymraeg a Gwyddeleg, ac Astudiaethau Celtaidd. Rhaid i'r pynciau hyn fod yn werth o leiaf 50% o'r cynllun gradd, h.y. cynllun anrhydedd sengl, un pwnc mewn cynllun anrhydedd cyfun neu brif elfen cynllun prif bwnc/is-bwnc. Yn ogystal, mae Bwrsariaethau Rhagoriaeth ar gael ar gyfer pob cynllun cyfrwng Cymraeg a ddysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg (o leiaf 50%). Rhestrir y cynlluniau hyn yn y prosbectws (Categoriau 1-3) ac maent wedi eu cynnwys yn y rhestr o gynlluniau cymwys (gweler isod).

Edrychwch os yw eich cwrs yn gymwys am Fwrsariaeth Rhagoriaeth.

Sut i gael Bwrsariaeth Rhagoriaeth Aberystwyth

Nid oes angen ffurflen gais arbennig. Y cwbl sydd ei angen yw gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, nodi Aberystwyth fel dewis 'Cadarn' ar gyfer un o'r cynlluniau cymwys, cyflawni 320 o bwyntiau tariff UCAS o dri lefel-A llawn (neu arholiadau cyfatebol e.e Bagloriaeth Ryngwladol) a chwrdd â gofynion eich cynnig i astudio yn Aberystwyth (er enghraifft, os gofynnwyd i chi cael B mewn Bioleg, rhaid bod hwn yn rhan o'r 320 o bwyntiau). 

Bydd yr holl ymgeiswyr sy'n bodloni'r amodau yn gymwys i'w hystyried am un o'r Bwrsariaethau Rhagoriaeth (yn unol â'r rheoliadau isod) dros gyfnod llawn eu cwrs yn Aberystwyth. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu am y wobr cyn dechrau'r tymor (tua canol mis Medi) a chyn iddynt gychwyn ar eu hastudiaethau.

Telir y Fwrsariaeth yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc dwywaith y flwyddyn, sef taliadau ym mis Rhagfyr a mis Mawrth. 

Os ydych yn penderfynu newid cwrs i gwrs nad yw'n gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Rhagoriaeth, bydd eich taliadau yn dod i ben.

Rheoliadau: Bwrsariaethau Rhagoriaeth

Cewch fanylion llawn rheoliadau'r Bwrsariathau Rhagoriaeth yma.