Rheoliadau'r Bwrsariaethau Rhagoriaeth
| 1. | Diben y Bwrsariaethau Rhagoriaeth yw cydnabod a gwobrwyo cyflawniadau academaidd ar lefel uchel cyn dod i’r brifysgol ar gyfer astudiaethau israddedig amser llawn yn y meysydd a nodir gan y Brifysgol. |
| 2. | Mae’r Bwrsariaethau Rhagoriaeth yn agored i bob ymgeisydd o’r DU/UE a fydd yn 17 oed ar 1 Hydref yn y flwyddyn y bwriadant gael mynediad i’r Brifysgol, ac na fuont yn fyfyrwyr yn unrhyw sefydliad Addysg Uwch (gan gynnwys Aberystwyth) am gyfnod o flwyddyn neu mwy. |
| 3. | Cyfyngir y Bwrsariaethau Rhagoriaeth i rai pynciau israddedig/DGU penodol. Caiff y pynciau eu nodi cyn dechrau blwyddyn gais a gellid eu newid yn flynyddol. Ar hyn o bryd, y pynciau yw cyrsiau Meistr, Baglor, graddau Sylfaen a chynlluniau DGU israddedig yng Nghyfadran y Gwyddorau, yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd, Adran y Gymraeg a chynlluniau penodol a ddysgir yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg (o leiaf 50%). |
| 4. | Isafswm y safonau academaidd sydd eu hangen ar gyfer graddau Meistr / Baglor israddedig yw 320 pwynt o’r tair lefel-A orau, neu gymhwyster cyfwerth â hynny. Ymhlith y tair lefel-A orau rhaid cynnwys unrhyw lefel-A (neu gymhwyster cyfwerth) y gofynnwyd yn benodol amdanynt i’r cynllun gradd arfaethedig, ar y lefel a benodwyd. Yn achos ymgeisydd hyn, byddwn yn ystyried y cymhwyster cyn-Addysg Uwch mwayf diweddar. |
| 5. | Isafswm y safonau academaidd sydd eu hangen am radd Sylfaen a Diploma Genedlaethol Uwch yw 160 pwynt i gynnwys dau lefel-A (neu gyfwerth) ac i gynnwys unrhyw lefel o berfformiad y gofynnwyd amdano’n benodol yn y lefel-A (neu gyfwerth). |
| 6. | Rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais i Aberystwyth trwy UCAS erbyn 30 Mehefin, a rhaid rhoi Aberyswyth yn ddewis ‘Cadarn’ wrth gyflwyno’r dewisiadau i UCAS. |
| 7. | Caiff pob myfyriwr yn y pynciau penodol sy’n dal Aberystwyth yn ddewis diamod neu gadarn amodol ar y dyddiad cau terfynol eu hystyried. Nid oes ffurflenni cais arbennig. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu o benderfyniad y Brifysgol cyn dechrau’r sesiwn academaidd. |
| 8. | Daw cyfnod dal y Bwrsariaethau Rhagoriaeth i ben ar ddiwedd cyfnod arferol cynllun gradd (y mae cynlluniau 4/5 mlynedd sy’n cynnwys cyfnodau gorfodol dramor neu hyfforddiant proffesiynol integredig wedi eu cynnwys). |
| 9. |
Daw cyfnod dal y Bwrsariaeth Rhagoriaeth i ben os yw’r deiliad yn newid i astudio cynllun arall nad yw’n gymwys i’r Bwrsariaeth (fel yr hysbysebir ar adeg cais y myfyriwr). |
| 10. | Bydd Prifysgol Aberystwyth yn terfynu’r Bwrsariaeth Rhagoriaeth os nad yw’r deiliad wedi gwneud cynnydd boddhaol, yn ôl tystiolaeth asesiadau ac arholiadau’r Brifysgol. |
| 11. | Ni ellir dal Bwrsariaeth Rhagoriaeth ar yr un pryd â gwobr arall a gynigir gan y Brifysgol, nad yw’n dibynnu ar brawf moddion, sydd â gwerth uwch iddi. Mewn sefyllfa o’r fath y wobr fwyaf ei gwerth yn unig a roddir. |
| 12. | Y mae gan Brifysgol Aberystwyth yr hawl i ddileu neu ganslo, heb rybudd, unrhyw fwrsariaeth neu ysgoloriaeth, a gallant ddiwygio unrhyw reoliad sy’n ymwneud â’r wobr. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio â thalu Ysgoloriaethau neu Fwrsariaethau os bydd gan y myfyrwyr unrhyw ddyledion sy'n ddyledus i'r Brifysgol Caiff gwerth y Bwrsariaethau Rhagoriaeth ei adolygu o bryd i’w gilydd. |