Bwrsariaethau Cerdd
£500 y flwyddyn
Mae Aberystwyth yn ganolfan gerddorol flaenllaw sydd â hanes hir ac arbennig. Mae cymeriad clòs Aberystwyth yn cryfhau ei bywyd cerddorol. Mae cenedlaethau o fyfyrwyr wedi darganfod ansawdd arbennig cerddoriaeth yn Aberystwyth. Mae'n lle da i astudio. Mae'n lle da i fyw. Mae'n lle arbennig iawn am gerddoriaeth.
Mae'r Bwrsariaethau Cerddoriaeth ar gyfer chwaraewyr offerynnau cerddorfaol profiadol sy'n gallu cyfrannu'n weithredol at gerdorfeydd, bandiau ac ensembles eraill y Brifysgol.
Cânt eu dyfarnu ar sail clyweliad cystadleuol i fyfyrwyr newydd mewn unrhyw ddisgyblaeth (israddedig neu uwchraddedig) a dyfernir y bwrsariaethau am hyd y cwrs. Mae'r bwrsariaethau ar gael i'r rhai sydd wedi gwneud cais i Aberystwyth erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin yn y flwyddyn mynediad, ac yna rhoi Aberystwyth fel dewis Cadarn (israddedigion).
Dyma rai o fanteision y Bwrsariaethau Cerddoriaeth:
- £500 y flwyddyn
- Aelodaeth yn rhad ac am ddim i holl ensembles y Ganolfan Gerdd neu ensembles cysylltiedig (gan gynnwys cerddorfeydd, bandiau ac ati)
- Cyfle i ddefnyddio adnoddau ymarfer a llyfrgell ac adnoddau priodol eraill y Ganolfan Gerdd yn rhad ac am ddim
- Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl / eiddo a reolir gan y Brifysgol am hyd y cwrs (er mwyn sicrhau eich lle mewn Neuadd, mae'n rhaid i chi wneud cais am lety ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o fewn y dyddiadau a hysbysebir gan y Swyddfa Llety i fyfyrwyr sy'n dychwelyd).
Gallwch glicio yma am ffurflen gais, neu cewch ffurflenni cais, rheoliadau a manylion pellach i'w cael oddi wrth:
Y Cyfarwyddwr Cerdd, Canolfan Cerdd, Prifysgol Aberystwyth, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, SY23 2AU
ffôn - 01970 622685
ebost - music@aber.ac.uk
Gellir dal Bwrsariaeth Cerdd ar y cyd ag unrhyw wobr arall.