Bwrsariaethau Preswyl
Yn Aberystwyth mae gennym amgylchedd dysgu unigryw ac mae’r profiad preswyl yn rhan annatod o’r amgylchedd hwnnw. Mae myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r UE yn cyd-ddysgu a chyd-fyw gan gyd-elwa yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol, a chanolbwynt llawer o’r cymysgu hwn yw llety’r Brifysgol.
Er mwyn sicrhau y gall pob myfyriwr, beth bynnag yw sefyllfa ariannol y teulu, elwa o’r amgylchedd unigryw hwn, mae’r Brifysgol yn cynnig gostyngiad o £400 oddi ar y ffi breswyl berthnasol (bydd myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2012 yn derbyn £800 o ostyngiad) (Neuaddau Preswyl neu Eiddo a Weinyddir gan y Brifysgol) yn y flwyddyn gyntaf i bob myfyriwr israddedig amser llawn sydd fel arfer yn byw yn y DU/UE, ac sy’n cyflawni’r amodau yma:
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais i Aberystwyth trwy UCAS erbyn 30 Mehefin, a rhaid rhoi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' wrth gyflwyno'r dewisiadau i UCAS.
- Mae’r £400 yn cael ei dynnu oddi ar ffi llety y flwyddyn academaidd lawn (ac fe gaiff ei gostwng pro rata os bydd myfyriwr yn tynnu’n ôl).
- Rhaid i ymgeiswyr cael eu derbyn ar y cwrs yr ydynt wedi gwneud cais amdano.
Caiff y gostyngiad ei weithredu’n awtomatig i bob ymgeisydd cymwys.


