Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau Aberystwyth – Cwestiynau Cyffredin

 Mae’r cwestiynau a’r atebion isod yn berthnasol i ymgeiswyr israddedig amser llawn a fydd yn cychwyn ar eu hastudiaethau yn 2012:

 

Pa fath o Ysgoloriaethau a Gwobrau sydd gennych?

Mae gennym nifer o wahanol Ysgoloriaethau – mae rhai ohonynt yn seiliedig ar incwm ac mae eraill yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd a llwyddiant yn y byd chwaraeon neu gerddoriaeth.

 

Pa fath o gymorth sydd ar gael i wobrwyo Rhagoriaeth ymhlith ymgeiswyr neilltuol?

Mae gennym gystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad sydd wedi hen sefydlu erbyn hyn (lle byddwch yn sefyll dau arholiad dwy awr sy’n cael eu gosod a’u marcio gan adrannau’r Brifysgol), Bwrsariaethau Rhagoriaeth mewn pynciau penodol (sy’n cael eu rhoi ar sail eich canlyniadau Safon Uwch / cymwysterau cyfatebol), Bwrsariaethau Chwaraeon i’r rheini sydd wedi cyrraedd safon uchel yn eu maes yn ddiweddar a Bwrsariaethau Cerddoriaeth i gynorthwyo cerddorion cerddorfaol dawnus.

 

Pa ddarpariaeth sydd gennych i helpu myfyrwyr llai cefnog?

Mae Bwrsariaethau Aberystwyth yn newydd ar gyfer 2012, lle bydd myfyrwyr sy’n dod o aelwydydd ag incwm islaw £34,090 yn cael hyd at £1,100 y flwyddyn. Mae’r Bwrsariaethau Preswyl yn rhoi gostyngiad o £800 ar ffi llety’r flwyddyn gyntaf er mwyn i fyfyrwyr o bob cefndir gael blas ar brofiad dysgu a phreswyl unigryw Aberystwyth. Mae Bwrsariaethau Gadael Gofal, gwerth hyd at £1,800 y flwyddyn, ar gael i’r rheini sydd wedi treulio cyfnod mewn gofal cyn eu penblwydd yn 16 oed.

 

Ydy’r holl wobrau’n seiliedig ar incwm?

Nac ydyn – dim ond Bwrsariaeth Aberystwyth sy’n seiliedig ar incwm; mae’r holl wobrau eraill yn agored i’r holl ymgeiswyr, beth bynnag fo incwm eu rhieni.

 

Pa fuddion eraill fydd ar gael, ac eithrio buddion ariannol?

Ar wahân i’r budd amlwg o gyfoethogi eich CV:

  • Ysgoloriaethau Mynediad – cynnig diamod, llety wedi’i warantu drwy gydol y cwrs.
  • Gwobrau Teilyngdod – cynnig diamod.
  • Bwrsariaethau Chwaraeon – aelodaeth am ddim o Glwb Sborti Canolfan Chwaraeon y Brifysgol bob blwyddyn o’r cwrs, llety wedi’i warantu drwy gydol y cwrs, cymorth gan Fentor y Fwrsariaeth Chwaraeon.
  • Bwrsariaethau Cerddoriaeth – aelodaeth am ddim o holl ensembles y Ganolfan Gerddoriaeth a’r ensembles cyswllt, cael defnyddio ystafelloedd ymarfer, llyfrgell ac adnoddau eraill y Ganolfan Gerddoriaeth am ddim, llety wedi’i warantu drwy gydol y cwrs.
  • Bwrsariaethau Gadael Gofal – cymorth gan Fentor o’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol a fydd yn cychwyn cyn i chi ddod i’r Brifysgol ac yn para tan i chi raddio.

 

Allaf i gael mwy nag un wobr ar yr un pryd?

Gallwch! Gall fod gennych Ysgoloriaeth Mynediad neu Wobr Teilyngdod neu Fwrsariaeth Rhagoriaeth ynghyd ag UNRHYW UN neu BOB UN o’n gwobrau eraill – Bwrsariaeth Aberystwyth, Bwrsariaeth Breswyl, Bwrsariaeth Chwaraeon, Bwrsariaeth Gerddoriaeth, Bwrsariaeth Gadael Gofal.

 

Oes rhaid i mi wneud cais am le ar gwrs mewn pwnc penodol cyn cael fy ystyried am wobr?

Nac oes – er bod y Bwrsariaethau Rhagoriaeth wedi’u cyfyngu i gyrsiau penodol, gall fod gennych Ysgoloriaeth Mynediad, Gwobr Teilyngdod, Bwrsariaeth Aberystwyth, Bwrsariaeth Breswyl, Bwrsariaeth Chwaraeon, Bwrsariaeth Gerddoriaeth a Bwrsariaeth Gadael Gofal ar gyfer UNRHYW UN o’n cyrsiau.

 

Oes angen i mi wneud cais ar wahân ar gyfer yr holl wobrau?

Mae ffurflenni cais ar wahân ar gael ar gyfer yr Ysgoloriaethau Mynediad, y Bwrsariaethau Chwaraeon a’r Bwrsariaethau Cerddoriaeth, ond nid oes angen i chi wneud cais am Fwrsariaethau Rhagoriaeth neu Fwrsariaethau Preswyl – os ydych yn gymwys, byddwch yn eu cael yn awtomatig. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw gwneud cais i Aberystwyth drwy UCAS erbyn 30 Mehefin a nodi Aberystwyth fel eich dewis cadarn. O ran Bwrsariaethau Aberystwyth, byddwn yn cael gafael ar y wybodaeth ariannol y byddwch yn ei rhoi i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac yn defnyddio’r wybodaeth honno i asesu a ydych yn gymwys, felly ni fydd rhaid i chi wneud cais ar wahân am Fwrsariaeth Aberystwyth chwaith.

 

Pam fod pecyn ariannol Aberystwyth mor ARBENNIG?

Yn wahanol i lawer o’r sefydliadau eraill, mae ein holl wobrau (ac eithrio’r Fwrsariaeth Gadael Gofal) yn agored i fyfyrwyr o BOB rhan o’r DU a’r UE.

 

Mae tua 60% o’n myfyrwyr yn cael Ysgoloriaeth, Bwrsariaeth neu Wobr o ryw fath.

 

Peidiwch â chymryd ein gair ni – mae astudiaethau diweddar gan OpinionPanel Research yn dangos mai gan Aberystwyth y mae’r ystod ORAU o Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau o blith holl brifysgolion y DU! Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella’r cymorth sydd ar gael ac mae’r arolygon ymhlith ein myfyrwyr yn tystio i hyn.

 




4ydd o Orffennaf, 2011


Cipolwg – beth y gallwch fod yn gymwys i’w cael:

 

Enw'r Wobr

Gwerth

Pwy all ymgeisio

Meini Prawf

Pryd i wneud cais

Ffurflen Gais Ychwanegol

Ysgoloriaethau Mynediad

  • £1,000 i £1,200 y flwyddyn
  • Cynnig Diamod
  • Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs

Pawb

  • Rhaid eistedd dau arholiad mewn dau bapur gwahanol
  • Cynhelir ar arholiadau ddechrau mis Chwefror a rhaid eu heistedd yn y Brifysgol new mewn ysgol new goleg yn y DU

Erbyn 15fed Ionawr

Oes

Gwobrau Teilyngdod

  • £1,000 yn y flwyddyn gyntaf yn unig
  • Cynnig Diamod

Pawb

  • Rhaid eistedd dau arholiad mewn dau bapur gwahanol
  • Cynhelir ar arholiadau ddechrau mis Chwefror a rhaid eu heistedd yn y Brifysgol new mewn ysgol new goleg yn y DU

Erbyn 15fed Ionawr

Oes (ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad)

Bwrsariaethau Rhagoriaeth

  • £2,000 dros gyfnod cwrs 3 blynedd
  • £2,667 dros gyfnod cwrs 4 blynedd
  • £3,334 dros gyfnod cwrs 5 blynedd
  • £1,400 dros gyfnod cwrs 2 blynedd

Myfyrwyr o'r DU/UE

  • Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' am un o'r cynlluniau cymwys
  • Ar gyfer meysydd astudio penodol yn unig
  • Rhaid cyflawni 320 pwynt o 3 lefela llawn (neu gymhwyster cyfwerth)

Dim angen ymgeisio - byddwch yn derbyn y Fwrsariaeth os ydych yn gymwys

Nac oes

Bwrsariaethau Aberystwyth

  • £700 - £1,100 y flwyddyn yn dibynnu ar incwm teuluol

Myfyrwyr o'r DU/UE

  • Os yw’ch incwm teuluol yn llai na £34,090 byddwch yn derbyn Bwrsariaeth tuag at eich costau byw

Dim angen ymgeisio, byddwn yn derbyn y wybodaeth oddi wrth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

Nac oes

Bwrsariaethau Preswyl

  • £800 o ostyngiad oddi ar y ffi breswyl berthnasol (Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol) yn y flwyddyn gyntaf

Myfyrwyr o’r DU/UE

  • Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis ‘Cadarn’

Dim angen ymgeisio - byddwch yn derbyn y Fwrsariaeth os ydych yn gymwys

Nac oes

Bwrsariaethau Chwaraeon

  • £500 y flwyddyn
  • Aelodaeth am ddim o Glwb Sborty Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
  • Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs

Myfyrwyr o'r DU/UE

  • Rhaid gwneud cais i Aberystwyth erbyn 30 Mehefin, a nodi Aberystwyth yn ddewis 'Cadarn' am un o'r cynlluniau cymwys
  • Rhaid cyflawni holl delerau'r cynnig yn llawn

Erbyn 30ain Mehefin

Oes

Bwrsariaethau Cerdd

  • £500 y flwyddyn (am gyfnod o hyd at 3 blynedd)
  • Aeolodaeth am ddim o ensembles y Ganolfan Cerdd
  • Defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Cerdd yn rhad ac am ddim
  • Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol trwy gydol y cwrs

Pawb

  • Dyfernir ar sail clyweliad cystadleuol mewn offeryn cerddorfaol

Erbyn 30ain Mehefin

Oes

Bwrsariaethau Gadael Gofal

  • Bwrsariaeth Lawn - £1,800 y flwyddyn
  • Bwrsariaeth Rannol - £1,000 y flwyddyn

Myfyrwyr o'r DU

  • Ar gyfer myfyrwyr o dan 24 oed, sydd wedi bod mewn gofal am gyfnod o 3 mis neu'n fwy cyn eu pen-blwydd yn 16
  • Rhaid cyflawni holl delerau'r cynnig yn llawn

Unrhyw amser cyn dechrau'r cwrs

Oes