Bwrsariaethau Chwaraeon - £500 y flwyddyn

Mae Bwrsariaethau Chwaraeon ar gael i ymgeiswyr israddedig ac uwchraddedig sydd fel arfer yn byw yn y DU/UE. Maent ar gael ar gyfer UNRHYW gwrs llawn-amser - nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr ar gyfer cwrs yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Anelir y Bwrsariaethau Chwaraeon at fyfyrwyr sy’n gallu dangos tystiolaeth o gyflawniadau diweddar o safon uchel ym maes chwaraeon ac ymrwymiad i ddatblygu perfformiad. Manteision y Bwrsariaethau Chwaraeon yw:
- £500 y flwyddyn (hyd at 10 ar gael bob blwyddyn)
- Aelodaeth am ddim o Glwb Canolfan Chwaraeon y Brifysgol am bob blwyddyn astudio
- Sicrwydd o lety mewn Neuadd Breswyl neu eiddo a weinyddir gan y Brifysgol am y cwrs cyfan
Dewch i gwrdd â rhai o enillwyr ein Bwrsariaethau Chwaraeon
Sut i wneud cais
- Dylai ymgeiswyr israddedig wneud cais trwy UCAS erbyn 30 Mehefin a nodi Aberystwyth yn ddewis ‘Cadarn’.
- Bydd angen i fyfyrwyr israddedig lenwi ffurflen gais am Fwrsariaeth Chwaraeon a’i hanfon yn ôl i’r Brifysgol erbyn 30 Mehefin yn y flwyddyn mynediad i’r Brifysgol.
- Bydd angen i fyfyrwyr uwchraddedig lenwi ffurflen gais am Fwrsariaeth Chwaraeon a’i hanfon yn ôl i’r Brifysgol erbyn 31 Awst yn y flwyddyn mynediad i’r Brifysgol.
- Gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad er mwyn trafod eu cais ymhellach.
- Cysylltwch â'r Syddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr am ragor o fanylion.
- Cliciwch yma am ffurflen gais y Bwrsariaethau Chwaraeon (ar-lein) (gallwch llenwi ar gyfrifiadur ac e-bostio i ni).
- Cliciwch yma am Ffurflen Gais am Fwrsariaeth Chwaraeon (PDF - i argraffu a phostio).
Ffurflen Gais am Fwrsariaeth Chwaraeon
Adroddiad Cynnydd Bwrsari Chwaraeon
Gwelwch dudalennau’r Canolfan Chwaraeon i weld ein cyfleusterau gwych
Amodau i’w cyflawni gan y rhai sy’n dal Bwrsariaeth Chwaraeon
- Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gyflawni holl delerau’r cynnig yn llawn, a bodloni’r Brifysgol o’u cynnydd academaidd.
- Disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu at un o Glybiau Chwaraeon y Brifysgol ac fel arfer byddai disgwyl iddynt gynrychioli’r Brifysgol pe gofynnid. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fyddai’r amod hwn yn briodol neu’n bosibl, a gellid ei eithrio trwy gytundeb.
- Dylai myfyrwyr sy’n dal bwrsariaeth gytuno i ymddwyn mewn dull sy’n gweddu i gynrychiolwyr y Brifysgol a cheisio cynnal neu wella eu perfformiad chwaraeon.
- Bydd y myfyrwyr yn bodloni’r Brifysgol am eu cynnydd academaidd.
- Bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo i hyrwyddo proffil chwaraeon y Brifysgol ac yn cynorthwyo â chynlluniau eraill sy’n cynwys hyrwyddo’r Brifysgol e.e. Dyddiau Agored, Dyddiau Ymweld, gweithgaredd Ehangu Cyfranogiad, lle bo hynny’n briodol. Caiff y myfyrwyr eu talu am oriau y byddant yn gweithio ar y raddfa safonol i fyfyrwyr.
- Disgwylir i’r sawl sy’n dal bwrsariaeth gyfarfod yn rheolaidd â’u mentor/tiwtor i adolygu eu cynnydd a gellid gofyn iddynt gadw dyddiadur hyfforddi i gynorthwyo gyda’r broses adolygu. Caiff y broses adolygu ei gweinyddu gan yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
- Canlyniad cynnydd anfoddhaol, heb achos da, fydd terfynu’r fwrsariaeth.
Bwrsari Chwaraeon - Adolygiad Cynnydd
Yn unol â rheoliadau dal Bwrsariaeth Chwaraeon, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gwblhau a chyflwyno'r ffurflen yma erbyn y dyddiad a rhoddwyd er mwyn sicrhau nad oes oedi wrth brosesu unrhyw daliadau dilynol. Bydd eich ymateb yn galluogi ni i ganfod unrhyw broblemau ac yn cynorthwyo datblygiad y rhaglen Bwrsariaethau Chwaraeon. Diolch yn fawr!
