Rhys Llwyd - Peldroed - Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Dinbych
Penderfynais ddod i Aberystwyth i astudio oherwydd safon ac enw da’r Brifysgol. Bues i yma ar gyfer yr Ysgol Ddeuddydd, ble cefais gyfle i fynychu darlith a roddodd syniad clir i mi am sut fath o gwrs buaswn yn ei ddilyn. Yn ogystal â hyn cefais flas ar yr awyrgylch hamddenol a Chymreig oedd yma, a phrofi’r bywyd cymdeithasol. Derbyniais Fwrsariaeth Chwaraeon drwy lenwi ffurflenni syml yn rhannu fy mhrofiadau blaenorol, a chyflwyno beth oedd fy mwriadau a fy nhargedau yn y maes chwaraeon ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae’r arian dwi’n ei gael yn gymorth mawr i dalu am gostau byw ac anghenion technolegol i lwyddo’n y Brifysgol. Roedd yn hawdd setlo i fewn yma. Fe wnaeth y tiwtoriaid a staff y neuadd i mi deimlo’n gartrefol. Dwi’n byw ym Mhantycelyn ac mae’r awyrgylch Cymreig yn holl bwysig i mi. Buaswn yn argymell i bob disgybl sydd am fod yn fyfyriwr Cymraeg i ddod i fyw i Pantycelyn gan bod y gymdeithas yma yn un agos ac unigryw. Mae’r cwrs yn agored ac mae cyfle i fod yn arbrofol arno. Rwy’n cael cyfle i brofi gwaith teledu, theatr, a ffilm, bydded hynny o flaen y camera, yn cyflwyno, cyfarwyddo, cynhyrchu, golygu, neu drin sain/goleuo. Mae’r cyfleusterau academaidd yn dda. Rydw i wedi cael siawns i wylio cynhyrchiad o ddrama yn y stiwdio yng Nghanolfan y Celfyddydau ac mae gymaint yn mynd ymlaen yno, mae rhywbeth at ddant pawb. Dwi’n aelod o UMCA a’r Geltaidd. Mae tripiau, timau chwaraeon a nosweithiau cymdeithasol yn cael eu trefnu ganddynt sydd yn gwneud y broses o gyfarfod pobl newydd a sefydlu ffrindiau yn llawer rhwyddach. I fyfyriwr fel fi a oedd yn dod i Bantycelyn yn adnabod bron i neb, roedd ymuno a’r cymdeithasau hyn yn allweddol i deimlo’n rhan o’r bywyd cynhyrfus sydd yn Aberystwyth. Dwi’n hoffi’r awyrgylch hamddenol sydd am Aberystwyth, ac mae’r bywyd cymdeithasol yn dda iawn yma. Bydden i’n sicr yn argymell Aberystwyth i eraill.