Sut y gall Ysgoloriaeth neu Fwrsariaeth wneud gwahaniaeth i chi tra byddwch ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Dywedodd deiliaid ein Hysgoloriaethau a'n Bwrsariaethau cyfredol fod pedair mantais o gael Bwrsariaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

  1. Dim Ad-daliadau!  Yn wahanol i rai prifysgolion a fydd yn gofyn am eu harian yn ôl, ni fyddwn yn gwneud hynny!  Cewch gadw'r arian i gyd.
  2. Dim Arholiadau!  Mae'n siŵr yr hoffech chi ddarllen rhywbeth fel 'ny'n amlach ... ond mae'n befffaith wir.  Ac eithrio cystadleuaeth yr Ysgoloriaethau Mynediad, ni fydd yn rhaid i chi wneud gwaith ychwanegol.
  3. Mae'n hawdd ymgeisio!  Ni all fod yn symlach - llenwch ffurflen a bant â chi.  Mewn gwirionedd, nid yw nifer o'n Bwrsariathau'n gofyn i chi lenwi ffurflen gais hyd yn oed!
  4. Dal mwy nag un wobr!  Mae'n berffaith bosib i chi ddal CHWE gwobr, oll ar yr un pryd!
Iolo Cheung Iolo Cheung - Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru - Ysgoloriaeth Evan Morgan
Llanfairpwllgwyngyll, Gwynedd
Derbyniais Ysgoloriaeth Evan Morgan werth £1,000 y flwyddyn, drwy wneud cais a phasio arholiad mewn dau bwnc. Dwi’n falch iawn fy mod yn ei dderbyn, mae’n help mawr tuag at gostau llety. Byddwn yn sicr yn argymell eraill i geisio am y wobr. Mae’r arian yn gallu bod yn help mawr tra yn y brifysgol.
Dafydd Morgan Dafydd Morgan - International Politics - Gwobr Teilyngdod
Llandysul, Ceredigion
Derbyniais Wobr Teilyngdod o £1,000 wedi i mi eistedd arholiad, ac mae wedi bod yn help mawr i mi. Dwi wedi gallu prynu llyfrau a chymdeithasu ychydig yn fwy. Bydden yn sicr yn argymell i eraill geisio am y wobr oherwydd ei fod yn gymorth ariannol, sy’n ddefnyddiol iawn tra yn y brifysgol.
Ffion Medi Ryan Ffion Medi Ryan - Drama ac Astudiaethau Ffilm a Theledu - Bwrsariaeth Rhagoriaeth
Caerdydd
Derbyniais Fwrsariaeth Rhagoriaeth gwerth £2,000 drwy wneud yn dda yn fy arholiadau. Roeddwn yn hapus dros ben i ddarganfod ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A mod i wedi derbyn y fwrsariaeth. Roeddwn yn teimlo fel bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Mae’r arian wedi bod yn help enfawr tuag at gostau preswyl, ac yn ystod wythnos y glas. Byddwn yn sicr yn argymell eraill i geisio am y wobr. Does dim gyda chi i golli ac mae’n dda cael derbyn y siec ar ddechrau’r tymor.
Benjamin Sadler Benjamin Sadler - Cymraeg ac Almaeneg - Bwrsariaeth Rhagoriaeth
Llandeilo, Sir Gâr
Derbyniais Fwrsariaeth Rhagoriaeth drwy wneud yn dda yn fy arholiadau. Roeddwn yn hapus iawn i’w derbyn. Mae wedi bod o gymorth mawr, yn enwedig ar ddechrau’r tymor pryd mae angen prynu llawer o lyfrau. Mae’r arian yn ddefnyddiol iawn wrth ddechrau yn y brifysgol.