Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau sydd ar gael ar gyfer ymgeiswyr sy'n byw yn y DU

Mae gan Aberystwyth ystod gynhwysfawr o Fwrsariaethau, Ysgoloriaethau Mynediad a Gwobrau gwerthfawr sy'n agored i fyfyrwyr sydd fel rheol yn byw yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r rhain yn darparu cymorth ariannol i sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu mwynhau buddion Addysg Uwch. 

Mae modd dal nifer o'n gwobrau ar yr un pryd, fel y gallwch gael dros £15,000 o gymorth ariannol dros gyfnod o 3 blynedd!

Gwelwch ein Cyfrifiannell Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am syniad o beth allwch CHI fod yn gymwys i dderbyn. 

Mae ein myfyrwyr presennol yn dweud wrthym fod dal Bwrsariaeth, Ysgoloriaeth neu Wobr Teilyngdod o gymorth mawr iddynt "fanteisio i'r eithaf" ar eu cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Credwn y byddwch yn gallu cael profiadau gwych fel myfyriwr ac mae ein cymorth ariannol rhagorol yn golygu y gallwch fanteisio'n llawn ar eich astudiaethau yn y brifysgol.

Y peth gwych am ein Hysgoloriaethau a'n Bwrsariaethau yw y gallwch ddewis yn union sut yr ydych am wario eich arian - boed hynny ar adnoddau, gliniadur, llyfrau, llety, bwyd, dillad, gweithgareddau cymdeithasol - chi sydd i benderfynu.  Gan fod byw yn Aberystwyth yn gymharol rad, bydd yr arian hwn y byddwch yn ei gael am ddim yn para'n llawer hirach nag y byddai mewn nifer o brifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig.

Mae llawer mwy i'n gwobrau ni nag arian yn unig.  Gall ennill Ysgoloriaeth, Gwobr Teilyngdod neu Fwrsariaeth o Brifysgol Aberystwyth ddod â bri mawr i chi a bydd yn ychwanegiad gwych at eich CV pan fyddwch wedi graddio ac yn cychwyn ar eich gyrfa.

Cliciwch yma am yr atebion i rai o'r cwestiynau a gofynnir yn aml am ein pecyn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

Bwrsariaethau

Gwobrau Adrannol

 Rhagor fyth o help i chi fanteisio i'r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol.

 

Llyfryn Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau

 Cewch fanylion llawn a rheoliadau'r holl Ysgoloriaethau a'r Bwrsariaethau yn ein llyfryn presennol.

Cofiwch: Gall yr holl wybodaeth am Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau newid o bryd i'w gilydd.  Dylai ymgeiswyr ddarllen y wybodaeth yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gwybod am y gweithdrefnau presennol, dyddiadau cau, ac ati.