Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Corff annibynnol yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gyfrifol dros gynllunio a chyllido darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn y sector addysg uwch gyfan mewn partneriaeth â holl brifysgolion Cymru.

Diben y cynllun Ysgoloriaethau yw cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae dwy lefel o Ysgoloriaeth, sy’n dibynnu ar y nifer o gredydau sy’n cael eu hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n bosibl i ddal Ysgoloriaeth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyd gydag unrhyw wobrau o Brifysgol Aberystwyth.  Cliciwch yma i edrych trwy ein cynlluniau astudio i weld a yw eich cwrs yn gymwys am wobr.


Prif Ysgoloriaethau - £1,000 y flwyddyn

Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Er mwyn derbyn yr ysgoloriaeth , bydd angen astudio o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn. Gwerth yr ysgoloriaethau hyn yw £1000 y flwyddyn (£3000 dros dair blynedd; lle mae cwrs gradd yn cynnwys tair blynedd o astudio yn Aberystwyth a blwyddyn dramor, ni fydd taliad yn y flwyddyn dramor). Mae rhestr o gyrsiau gradd cymwys ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael ar safle gwe'r Coleg.  Dyfarnir yr ysgoloriaethau ar sail perfformiad academaidd yr ymgeiswyr yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth.

Sut i wneud cais: Mae ffurflen gais ar gael ar safle gwe'r Coleg.  Rhaid ei dychwelyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn 15 Ionawr 2013.  Yn ogystal, bydd angen ymgeisio i eistedd arholiadau'r Ysgoloriaethau Mynediad yn Aberystwyth.  Cynhelir yr arholiadau ar y 5ed, 6ed a 7fed o Chwefror 2013.  Gall ymgeiswyr sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu goleg neu yn Aberystwyth.

 

Ysgoloriaethau Cymhelliant - £500 y flwyddyn

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 120 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Er mwyn derbyn yr ysgoloriaeth bydd angen astudio o leiaf 40 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn. Gwerth yr ysgoloriaethau hyn yw £500 y flwyddyn (£1500 dros dair blynedd; lle mae cwrs gradd yn cynnwys tair blynedd o astudio yn Aberystwyth a blwyddyn dramor, ni fydd taliad yn y flwyddyn dramor). Mae’r ysgoloriaethau ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y meysydd academaidd pynciol canlynol ym Medi 2012: Daearyddiaeth, Cyfraith, Mathemateg a Ffiseg. Mae rhestr o gyrsiau gradd cymwys ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael ar safle gwe'r Coleg.  Dyfarnir yr ysgoloriaethau ar sail ffurflen gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Sut i wneud cais: Mae ffurflen gais ar gael ar safle gwe'r Coleg.  Rhaid ei dychwelyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn y dyddiad a hysbysebir ganddynt.