Newidiadau i bynciau'r Ysgoloriaethau Mynediad 2013
Nodwch, os gwelwch yn dda, y newidiadau canlynol ar gyfer ymgeiswyr sy'n eistedd yr arholiadau yn Chwefror 2013:
-
Astudiaethau Gwybodaeth - yn anffodus, ni fyddwn yn medru cynnig papur arholiad mewn Astudiaethau Gwybodaeth bellach.
-
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - mae ffurf y papur wedi newid, a bydd angen i ymgeiswyr ateb pum cwestiwn allan o ddewis o saith cwestiwn. Mae strwythur y cwestiynau yn fras yn debyg i bapur arholiad llynedd.