I fyfyrwyr sy'n mynychu ysgol/coleg yn Ne-ddwyrain Cymru

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (Cangen Caerdydd), wedi cytuno i roi grant hael sy'n werth rhwng £500 ac £800, i fyfyriwr sy'n mynychu ysgol neu goleg yn Ne-ddwyrain Cymru ac sy'n dymuno astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bwriad y grant yw helpu â'r gwariant mawr a ddaw i ran myfyrwyr yn y flwyddyn astudio gyntaf - wrth brynu llyfrau, dillad a phethau tebyg.  Ni fydd y grant o anghenraid yn cael ei roi i'r ymgeisydd â'r marciau gorau.  Bydd adroddiadau'r ysgol a llythyron cais yr ymgeiswyr gyn bwysiced wrth bederfynu pwy ddylai gael y grant.

Rhaid inni gael y ceisiadau erbyn diwedd Ionawr y flwddyn ymae'r myfyriwr am gychwyn yn y brifysgol, a cheir rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion.