Diwrnodau Agored- cymorth gyda chostau teithio eich grwp…

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhoi cymorth gyda chostau teithio eich grwp sy’n dod i’n gweld yn yston ein Dwrnodau Agored a rhoi cinio rhad ac am ddim i bob athro ac ymgynghorydd.

Mwy o wybodaeth…

Rhaglen Gyffredinol

Mae aelodau o'r Tim Cyswllt Ysgolion a Cholegau ar gael i ymweld â'ch ysgol neu coleg, yn rhad ac am ddim i siarad i fyfyrwyr am ystod eang o destunau...

  • Dewis eich Cwrs a'ch Sefydliad - "Pa Gwrs, Ble a Pham?"
  • Y Broses UCAS - gwneud synnwyr o'r cyfan
  • Rheoli Arian - "Materion Ariannol"
  • Materion Lles

Rhaglen Academaidd

Myfyrwraig yn narlithGall aelodau staff Prifysgol Aberystwyth cynnig darlithoedd, cyflwyniadau a gweithdai am eu hadrannau yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd y Brifysgol yn talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth hwn

Ymweld â'r Brifysgol

Rydym yn barod i drefnu ymweliad ag amrywiaeth o adrannau i grŵp o ddisgyblion o’ch ysgol neu goleg, gan gynnwys defnyddio’r adnoddau chwaraeon, a gallwn gynnig taith o amgylch y campws dan arweiniad myfyriwr neu aelod o staff ac unrhyw ofynion eraill.

Cynadleddau Addysg Uwch a Gyrfaoedd

Mae’r Tîm Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau yn mynd i amrywiaeth eang o ffeiriau gyrfaoedd a ffeiriau addysg uwch trwy gydol y flwyddyn. Dewiswch ranbarth i weld y digwyddiadau y bydd Prifysgol Aberystwyth yn mynd iddynt yn eich ardal.