Cytundebau Compact A Phartneriaethau

Mae gan Brifysgol Aberystwyth, Gytundebau Compact â rhai ysgolion a cholegau penodol yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'r rhain yn cynnwys Compact Addysg Uwch Pen-y-bont Ar Ogwr a'r fenter CARD Addysg Uwch yng ngorllewin canolbarth Lloegr, sy'n cynnwys ysgolion a cholegau yn ardaloedd Birmingham a Solihull, y Black Country, Cofentri, Swydd Warwick, Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, Swydd Amwythig, Telford a Wrekin, Swydd Stafford

Mae'r Brifysgol hefyd wedi arwyddo Memorandwm o Gytundeb gyda Choleg Ceredigion, sy'n cynnwys gwarant o ddilyniant i fyfyrwyr o Goleg Ceredigion i'r Brifysgol.

Mae'r Aberystwyth yn cydnabod gwerth datblygiad personol ac addysgiadol amcanion Compact. Bydd cyrraedd yr amcanion hyn yn cael eu hystyried yn gadarnhaol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn ag ymgeiswyr o ysgolion a cholegau sy'n bartneriaid i ni o fewn y cynllun Compact.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â marchnata@aber.ac.uk.