Sioe Frenhinol Cymru
Dewch draw i’n stondin ni ar faes Sioe Frenhinol Cymru, dydd Llun 23ain o Orffennaf i ddydd Iau 26ain o Orffennaf 2012
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu dros 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol ac llynedd fe ddaeth 227,000 o ymwelwyr i’r Sioe.
Blas o’r hyn sydd i ddod ar stodin y Brifysgol ar y Brif Gylch (y Pafiliwn Addysg)
Mi fydd rhaglen o ddigwyddiadau gan gynnwys sgyrsiau, seminarau a derbyniadau yn cael eu cynnal lan llofft drwy gydol yr wythnos.
Mi fydd Dewi’r Dolffin yn gwneud ymddangosiadau yn ddyddiol gyda’r llysgenhadon wrth ei ochr yn dosbarthu goncs, sticeri a ysgrifbinnau.
Syrffiwch y we yn rhad ac am ddim ar ein stondin trwy gydol yr wythnos!
Dewch draw am baned ac ymunwch yn ein amryw o ddigwyddiadau. Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl chi!
Mi fydd gan IBERS stondin hefyd yn ardal Gofal Cefn Gwlad.