Dewch draw i’n stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Eryri 2012!
Urdd Gobaith Cymru yw prif fudiad ieuenctid Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid celfyddydol mwyaf Ewrop. Mae’r Eisteddfod yn denu 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr a bron i filiwn o wylwyr teledu.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ger Coleg Glynllifon, tua 6 milltir o Gaernarfon. Dewch draw i’n gweld ni yn y Ganolfan Groeso i ymuno yn hwyl a bwrlwm yr Eisteddfod rhwng dydd Llun 4 Mehefin a dydd Sadwrn 9 Mehefin 2012.
Mi fydd cynrychiolwyr o adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn y GwyddonLe ar ddydd Llun y 4ydd o Fehefin a dydd Mawrth y 5ed o Fehefin. Cofiwch alw heibio'r GwyddonLe ar y maes, mi fydd yno weithgareddau hwyl yn cael eu cynnal gan ddarlithwyr Brifysgol Aberystwyth.
'Swyn y Swigod' - Beth am gael eich rhyfeddu gan swigod?
'Peiriant mwg a gweithgaredd poteli plastig' - Arsylwch ar y patrymau caiff eu creu, beth sy'n debyg rhwng y rhain a thornados yr haul?
Prifysgol Aberystwyth yw un o brif noddwyr Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru

Ers 15 mlynedd, Prifysgol Aberystwyth yw darparwr swyddogol gwasanaeth defnyddio’r we ar y maes, gwasanaeth sydd yn galluogi eisteddfodwyr i gael y newyddion diweddaraf oddi ar y we ac anfon a derbyn e-byst yn rhad ac am ddim.
Noddi Chwaraeon yr Urdd
Ers nifer o flynyddoedd bellach mae’r Brifysgol wedi noddi Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru. Mae’r bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth gyda’r Brifysgol yn noddi amryw o weithgareddau chwaraeon yr Urdd gan gynnwys Rhaglen Cyrsiau Hyfforddi.
Gwybodaeth Bellach
- Prifysgol Aberystwyth yn Noddi Chwaraeon yr Urdd
- Eisteddfodau‘r Gorffennol
- Galeri o Ddigwyddiadau Noddedig Diweddar
Cofiwch ddod draw i’n gweld ni eleni yn y Ganolfan Groeso ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Eryri!
Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl chi!