Yr Ysgol Ddeuddydd 2012

Wyt ti eisiau profiad o fywyd Prifysgol? Hoffet ti’r cyfle i aros mewn neuadd breswyl, a chael cyfarfod â darpar fyfyrwyr eraill o ar draws Cymru gyfan? Fyddi di ym mlwyddyn 13 fis Medi nesa? Beth am ddod i’r Ysgol Ddeuddydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 13-14 Medi 2012?

Fe gei di amrywiaeth eang o brofiadau yn ystod y ddau ddiwrnod yma. Dyma gyfle i brofi’r ochr gymdeithasol a chael blas ar sesiynau academaidd mewn sawl adran wahanol. Cewch fwynhau sesiwn chwaraeon, a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn Undeb y Myfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth anfon e bost at ysgolddeuddydd@aber.ac.uk neu ffonia 01970 622065. Y dyddiad cau yw 7 Medi 2012.  Byddi angen anfon y ffurflen gais wedi ei llenwi ynghyd a siec o £25 at: Yr Ysgol Ddeuddydd, Swyddfa Marchnata ar gyfer Denu Myfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3FB, cyn 7 Medi 2012.

Cofia bod croeso i ti ddod â chriw o’r ysgol/coleg gyda ti. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Aberystwyth fis Medi!

 

Ffurflen Gais Yr Ysgol Ddeuddydd 2012 application form