Beth yw DSAP?
Ffordd o’n hadolygu ni ein hunain a’n gwaith yw Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad (DSAP). Mae pob aelod o staff a gyflogir gan y Brifysgol yn cymryd rhan.
Diben DSAP yw cydnabod ein llwyddiannau yn ystod y flwyddyn flaenorol a dod i ddealltwriaeth ar y cyd am yr hyn y disgwylir gennym yn y flwyddyn a ddaw. Y nod yw adnabod yr hyn a wnaethom yn dda a’r newidiadau y gallwn eu gwneud a’r cymorth sydd ei angen arnom i wella’n gwaith. Mae’n ymwneud â sut mae’n gwaith yn cyfrannu at lwyddiant y Brifysgol. Yn anad dim, mae’n gyfle i neilltuo amser i gael siarad am ein gwaith, ein datblygiad proffesiynol a’n dyheadau gyrfaol ein hunain.
Gwybodaeth i’r Staff i Gyd
Ffordd o adolygu a datblygu aelodau unigol o’r staff yw Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad (DSAP) ac yn fodd i’w helpu i gyflawni eu swyddogaethau.
Gwybodaeth i’r Adolygwyr
Yr adolygwyr sy’n gyfrifol am gynnal cyfarfodydd ag aelodau unigol o’r staff. Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gynnal cyfarfodydd DSAP.
