Sut fyddaf i ar f’ennill?
Graham Lewis (gjl@aber.ac.uk) o’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn trafod paham y dylai Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad fod yn brofiad positif.
Mae Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad – neu beth bynnag arall fo’i deitl – fel arfer yn cael ei ystyried fel ymweliad blynyddol â’r deintydd: profiad amhleserus ond angenrheidiol a gorau oll po gyflymaf y’i gwneir ac anghofio amdano. Baich biwrocrataidd yw’r broses yn bennaf, ym marn y rheiny sy’n cymryd rhan.
Os mai fel hyn y mae’r rheolwyr a/neu’r gweithwyr yn meddwl amdano, yna y mae’n sicr yn wastraff amser gwerthfawr. Ond nid oes raid i bethau fod felly.
- Pam felly ddylech chi, a’ch rheolwr, ei ystyried o ddifrif?
- Beth yn union yw diwedd y gân? Sut fyddwch chi ar eich ennill?
Beth yn union yw nod Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad?
Wel, yn llythrennol, adolygu perfformiad, debyg iawn. Ond beth a olygir wrth berfformiad? Yn syml, cyfle i fwrw golwg ar y tasgau a’r gweithgareddau y gwnaethoch chi gytuno i’w gwneud yn ystod y flwyddyn a aeth heibio cyn gosod nodau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ond pe bai hi’n fater o hynny’n unig, - ‘a ydych chi werth eich halen?’, byddai tuedd i ganolbwyntio ar yr unigolyn yn unig ac fe fyddai hynny’n creu awyrgylch amddiffynnol nad yw’n addas ar gyfer gonestrwydd a gweithredu cynhyrchiol.
Ydy, mae Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad yn golygu darparu gofod i drafod yr hyn sy’n dda a’r hyn nad yw mor dda, ond yng nghyd-destun ehangach y tîm, yr adran a’r brifysgol. Does yr un ohonom ni, wrth reswm, yn gweithio mewn gwagle.
Er na cheir fawr o gliwiau yn y teitl, mae Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad hefyd yn ymwneud â’ch anghenion chi.
- Beth sydd ei angen arnoch chi i wneud y swydd yn haws, yn fwy effeithiol ac yn fwy diddorol?
- Pa mor aml rydych chi’n brwydro wrth flaenoriaethu gwaith?
- Pa mor aml rydych chi’n meddwl i b’le mae’ch gyrfa yn mynd?
- Pa mor aml rydych chi’n teimlo fel deilen yn y gwynt; ddim yn rheoli’r hyn a wnewch chi bob dydd a’r ffordd y’i gwnewch?
Dyma’r pynciau y dylai Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad da a phriodol fynd i’r afael â nhw. Mi ddylai’r adolygiad eich galluogi:
- I gyrraedd dealltwriaeth gyffredin o dasgau a dyletswyddau:
- “A ydw i’n cyflawni’r hyn a ddisgwylir ohonof ac a ydw i’n ei wneud yn iawn?”
- I’ch helpu i gynllunio eich gwaith:
- “Beth fyddaf i’n ei wneud y flwyddyn nesaf?”
- I gadarnhau amcanion eich tîm a’ch rôl yn y tîm:
- “Beth yw’r cysylltiad rhwng fy ngwaith i a gwaith fy nghydweithwyr?"
- "Pa mor dda rydym ni fel tîm? Sut allwn ni wella?”
- I wneud y cysylltiad rhwng yr hyn yr ydych chi a’ch tîm yn ei wneud a’r hyn y mae’r Brifysgol yn ei wneud.
- I ganfod beth arall y gallech ei wneud:
- “Sut allaf i ddysgu i wneud yr hyn rwy’n ei wneud yn well ac i wneud pethau newydd?"
- "Sut hoffwn i ddatblygu a sut all fy rheolwr fy nghynorthwyo?”
Wrth reswm, mae Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad hefyd yno i helpu pawb i ddysgu o’r amcanion na chyrhaeddwyd, ond nid i fwrw bai. Ei nod yn hytrach yw darparu fframwaith ar gyfer sgyrsiau sydd weithiau yn anodd, fel bod y canlyniad yn un adeiladol feirniadol ac yn cynnig gwybodaeth i bawb.
Dyma yw Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad – pan fo pawb yn ei ddeall a’i werthfawrogi?
Mae’r Brifysgol wrthi’n peilota system o Ddatblygu Staff ac Adolygu Perfformiad ar gyfer yr holl staff. Yn ystod y misoedd diwethaf, bu saith grŵp peilot yn ystyried sut y gellir teilwra proses orau a’i haddasu ar gyfer eu hanghenion eu hunain ac anghenion sefydliadol y Brifysgol. Fe fyddwn ni’n adolygu canlyniadau’r rhaglenni peilot hyn ac o 2011/12 gofynnir i bob adran weithredu ei chynlluniau ei hun.
Bydd Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad mor ddefnyddiol ag y dymunwn iddo fod. Os bydd adolygwyr o’r farn fod y broses yn erfyn gwerthfawr o safbwynt arweinyddiaeth sy’n cynnig cyfle prin ar gyfer meddwl yn yr un modd a’r sawl sy’n cael ei adolygu yn gweld y broses yn gyfle prin i drafod ei anghenion a’i ddyheadau ei hun, mi fydd adolygu perfformiad felly’n fwy na chyfiawnhau’r amser a dreuliwn arno.
Beth bynnag fo’ch rôl yn y Brifysgol, bydd Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad yn gwneud rhywbeth drosoch chi ac nid yn eich erbyn chi. Gwnewch ddefnydd ohono. Peidiwch â bod yn ddeilen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau’n ymwneud â Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad neu os hoffech siarad â rhywun am gynllunio gyrfa, cysylltwch â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Arfer Academaidd ar cdsap@aber.ac.uk neu (01970) 622117.