Cynhadledd Ryngwladol: Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell 27-29 Mehefin 2012.

Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Cymru, y DU

FlyerDyfeisiwyd y Gynhadledd “Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell” i fframio cysyniadau newydd o ran ymarfer cydweithredol mewn astudiaethau plentyndod yn erbyn newidiadau cymdeithasol, deddfwriaethol a chyfundrefnol o fewn dimensiwn strategol rhyngwladol.

Mae cofrestru ar agor erbyn hyn i gynrychiolwyr sydd ddim yn cyflwyno

Yn unol ag ymwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, codi safonau, hyrwyddo cyfranogiad disgyblion a datblygu arweiniad a rheolaeth effeithiol, mae gweithio cydweithredol yn arf hanfodol ar gyfer creu polisi effeithiol ac ymarfer a rennir.

Mae’r siaradwyr allweddol canlynol wedi cadarnhau eu cyfranogiad:

  • Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru.
  • Yr Athro Jouni Välijärvi, Cydlynydd Cenedlaethol PISA, Sefydliad Ymchwil Addysgol y Ffindir, Prifysgol Jyvaskyla, y Ffindir.
  • Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.
  • Ann Keane, Prif Arolygydd, Estyn
  • Eifion Evans, Awdurdod Lleol Ceredigion
  • Johannes Theiner (APA, Austria), President, European Parents' Association

A hwythau’n anelu’n bennaf at gynulleidfa broffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil addysgol, bydd y canfyddiadau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys ffurfio polisi llywodraethol, gofal cymdeithasol a chyflenwi gweithrediadol y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cwmpas eang y gynhadledd yn gymwys iawn i lywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol, gweithwyr addysg proffesiynol ac o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd.

Bwriedir cyhoeddi cyfres o bapurau o ansawdd academaidd a phwysigrwydd ysgolheigaidd, gan gynnig y cyfle i ddynodi a rhannu ymarfer gorau ymhlith gweithwyr pwnc proffesiynol.

Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Cymru, y DU

Trefnir gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth

 

Am fwy o wybodaeth - ymholiadau E-Bost achildsworldconference@aber.ac.uk