Galw am Grynodebau Papur
Annwyl Gydweithiwr
Ar ran trefnwyr y gynhadledd a’r siaradwyr, hoffem eich gwahodd i gyfranogi yn y gynhadledd ryngwladol ganlynol
Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell
27-29 Mehefin 2012
Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Cymru, y DU
Trefnir gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk/sell
Bydd y Siaradwyr Allweddol yn cynnwys:
- Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru.
- Yr Athro Jouni Välijärvi, Cydlynydd Cenedlaethol PISA, Sefydliad Ymchwil Addysgol y Ffindir, Prifysgol Jyvaskyla, y Ffindir.
- Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.
- Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn
- Eifion Evans, Awdurdod Lleol
- Johannes Theiner (APA, Austria), President, European Parents' Association
Mae dyddiad cau’r galwad am grynodebau wedi ymestyn nawr tan hanner nos ar Ddydd Iau 1af o Ragfyr 2011
Dyfeisiwyd Cynhadledd “Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell” i fframio cysyniadau newydd o ran ymarfer cydweithredol mewn astudiaethau plentyndod yn erbyn newidiadau cymdeithasol, deddfwriaethol a chyfundrefnol o fewn dimensiwn strategol rhyngwladol.
Yn unol ag ymwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, codi safonau, hyrwyddo cyfranogiad disgyblion a datblygu arweiniad a rheolaeth effeithiol, mae gweithio cydweithredol yn arf hanfodol ar gyfer creu polisi effeithiol ac ymarfer a rennir.
A hwythau’n anelu’n bennaf at gynulleidfa broffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil addysgol, bydd y canfyddiadau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys ffurfio polisi llywodraethol, gofal cymdeithasol a chyflenwi gweithrediadol y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cwmpas eang y gynhadledd yn gymwys iawn i lywodraeth genedlaethol, ranbarthol a l leol, gweithwyr addysg proffesiynol a bydd o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd.
Bwriedir cyhoeddi cyfres o bapurau o ansawdd academaidd a phwysigrwydd ysgolheigaidd, gan gynnig y cyfle i ddynodi a rhannu ymarfer gorau ymhlith gweithwyr pwnc proffesiynol.
Mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn croesawu ac yn gwahodd crynodebau o gyflwyniadau i’w cyflwyno a’u dosbarthu yn y gynhadledd ar y themâu canlynol:
DINASYDDIAETH FYD-EANG
- Ymwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn y cwricwlwm cyfan
- Cyfranogiad Disgyblion
- Gweithio Cydweithredol
BLYNYDDOEDD CYNNAR
- Trawsnewid o ddysgu’n seiliedig ar chwarae
- Arweinyddiaeth a Rheoli
- Gweithio Cydweithredol
CODI SAFONAU
- Llythrennedd a Rhifedd
- Asesu
- Gweithio Cydweithredol
Dylai’r crynodebau amlinellu’r pwnc dan sylw, y dulliau a’r agweddau, canlyniadau a chasgliadau. Mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn croesawu crynodebau yn Gymraeg a Saesneg.
Ni ddylai unrhyw gyflwyniadau fod yn hirach nag 20 munud
Mae dyddiad cau’r galwad am grynodebau wedi ymestyn nawr tan hanner nos ar Ddydd Iau 1af o Ragfyr 2011
Caiff cynigion eu hadolygu yn erbyn y meini prawf canlynol
- Perthnasedd i nodau’r gynhadledd
- Eglurder a chydlyniad y cynnig
Caiff yr holl bapurau cynhadledd a dderbynnir eu cyhoeddi yn Nhrafodion y Gynhadledd