Manylion y Cynhadleth
Lleoliad
Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Cymru, y DU
Trefnir gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk/sell
Manylion y Gynhadledd
Dyfeisiwyd Cynhadledd “Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell” i fframio cysyniadau newydd o ran ymarfer cydweithredol mewn astudiaethau plentyndod yn erbyn newidiadau cymdeithasol, deddfwriaethol a chyfundrefnol o fewn dimensiwn strategol rhyngwladol. Yn unol ag ymwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, codi safonau, hyrwyddo cyfranogiad disgyblion a datblygu arweiniad a rheolaeth effeithiol, mae gweithio cydweithredol yn arf hanfodol ar gyfer creu polisi effeithiol ac ymarfer a rennir.
Mae’r siaradwyr allweddol canlynol wedi cadarnhau eu cyfranogiad:
- Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru.
- Yr Athro Jouni Välijärvi, Cydlynydd Cenedlaethol PISA, Sefydliad Ymchwil Addysgol y Ffindir, Prifysgol Jyvaskyla, y Ffindir.
- Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.
- Ann Keane, Prif Arolygydd, Estyn.
- Eifion Evans, Awdurdod Lleol Ceredigion
A hwythau’n anelu’n bennaf at gynulleidfa broffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil addysgol, bydd y canfyddiadau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys ffurfio polisi llywodraethol, gofal cymdeithasol a chyflenwi gweithrediadol y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cwmpas eang y gynhadledd yn gymwys iawn i lywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol, gweithwyr addysg proffesiynol a bydd o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd.
Y cynnyrch a fwriedir yw cyhoeddi cyfres o bapurau o ansawdd academaidd a phwysigrwydd ysgolheigaidd, gan gynnig y cyfle i ddynodi a rhannu ymarfer gorau ymhlith gweithwyr pwnc proffesiynol.
Nod y Gynhadledd:
Gweithio cydweithredol mewn astudiaethau plentyndod.
Amcanion y Gynhadledd:
Archwilio tair thema allweddol:
- Dinasyddiaeth
- Fyd-eang Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Codi safonau.
Gweithredu:
Creu cyfleoedd rhwydweithio traws-sector a thraws-ffiniol i weithwyr proffesiynol ym meysydd addysg plant, hyfforddiant, gwaith cymdeithasol, ymatebwyr cyntaf, trydedd sector (grwpiau gwirfoddol), llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol), academyddion a rhieni.
Datblygu corff rhyngwladol o arbenigwyr cysylltiedig i rannu ymarfer gorau wrth greu polisi a chyflwyno gweithrediadol.
Amseru ac arwyddocâd:
Mewn astudiaethau plentyndod, fel mewn cynifer o feysydd eraill, mae gostyngiad byd-eang mewn cyllid llywodraethol, ynghyd â chynnydd mewn goruchwylio deddfwriaethol a newid sefydliadol wedi cynyddu’r pwysau ar adnoddau a gyrru’r angen i sicrhau arferion gwaith arloesol a datblygu cydweithio integredig. Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio i gynyddu posibiliadau cydweithio, gan ganolbwyntio ar safoni ymarfer gorau addysgol, uchafu’r defnydd o adnoddau ac ychwanegu gwerth drwy arweinyddiaeth a rheoli effeithiol. Y thema sy’n tanategu’r cyfan yw manteision cymdeithasol, economaidd a lles sy’n deillio o gynhwysiad. Bydd y gynhadledd yn tynnu ar enghreifftiau da o gydweithio’n rhyngwladol yn ogystal ag yn genedlaethol. Bydd y gynhadledd yn gyngres fyd-eang o ddiddordeb ac arwyddocâd i gynulleidfa fyd-eang a disgwylir y bydd cynrychiolwyr yn cael eu denu o lawer o wledydd