Cyflwyniad i Brifysgol Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi’i lleoli ar arfordir gorllewin Cymru, yw yn un o brif ddarparwyr Addysg Uwch y DU ac mae’n gyrchfan poblogaidd i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Yn 2009, Prifysgol Aberystwyth oedd â’r lefel uchaf o foddhad myfyrwyr yn ôl Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol 2009, ac yn y safle uchaf o 123 o Sefydliadau Addysg Uwch ar draws y byd am yr elfennau ‘lle da i fod’ a ‘boddhad cyffredinol myfyrwyr’.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, arweiniwyd yr ymgyrch i sefydlu prifysgol gan Hugh Owen, Cymro o Lundain, a fu’n ymgyrchu o’r 1850au ymlaen i godi digon o arian drwy danysgrifiad cyhoeddus a phreifat i sefydlu coleg o statws prifysgol yng Nghymru. Roedd yn uchelgais a ymddangosai’n amhosibl, ond ym 1872 agorodd y Brifysgol mewn adeilad gwesty wedi hanner ei adeiladu ar lan y môr yn Aberystwyth. Roedd 26 o fyfyrwyr a staff dysgu o dri!
Roedd degawd cyntaf o fodolaeth y Brifysgol yn frwydr barhaus i oroesi. Sicrhaodd haelioni rhai noddwyr unigol ac apeliadau cyhoeddus am gymorth gan werin Cymru fod y Brifysgol yn parhau, ac efallai’n bwysicach, yn ymwreiddio yng nghalonnau pobl Cymru. Mae’n gryn falchder i’r Brifysgol iddi wneud cyfraniad sylweddol i addysg menywod, gan fod yn un o’r sefydliadau cyntaf i dderbyn myfyrwyr benywaidd.
O’r 1960au ymlaen, adleolodd rhai adrannau o lan y môr i’r campws modern a adeiladwyd yn bwrpasol ar riw Penglais. Mae i’r safle hwn, sydd wedi’i gynllunio’n hardd, olygfeydd godidog dros dref Aberystwyth a’r môr. Yma ceir adeiladau newydd, gan gynnwys datblygiadau mawr yn y gwyddorau a’r celfyddydau, neuaddau preswyl, Canolfan Gelfyddydol wych a chyfleusterau chwaraeon rhagorol. Yn fwyaf diweddar mae buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at sefydlu’r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
- Hafan y Gynhadledd
- Manylion y Gynhadledd
- Ffioedd Cofrestru Cynhadledd
- Galw am Grynodebau
- Cyflwyno Crynodebau