Gwybodaeth Gyffredinol

Sut mae Cofrestru ar Gwrs

Helpwch ni i'ch helpu chi trwy gofrestru'n gynnar ar y cwrs o'ch dewis. Fe'ch cynghorir i rag-gofrestru o leiaf bythefnos o flaen llaw i osgoi siom, oherwydd mae gan ddosbarthiadau mewn rhai meysydd nifer cyfyngedig o leoedd. Ni allwn sicrhau eich lle ar gwrs nes y byddwch wedi anfon eich ffurflen gofrestru wedi'i llenwi a'r ffi. Os nad yw isafswm y myfyrwyr cofrestredig wedi cofrestru erbyn wythnos cyn dechrau'r cwrs, mae'r Ysgol yn cadw'r hawl i ganslo'r cwrs hwnnw. Rhoddir gwybod i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru os bydd hyn yn digwydd.
Gallwch:-

  • Lawrlwytho Ffurflen Gofrestru Dysgu Gydol Oes
  • Wneud cais am ffurflen trwy e-bostio: learning@aber.ac.uk
  • I gael ffurflen gofrestru trwy'r post, ffoniwch 01970 621580,
  • Mynd i nôl ffurflen o'r Swyddfa Dysgu Gydol Oes yn yr P5, Campws Penglais, Aberystwyth.

Dewch i'r diwrnod cofrestru yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ddydd Sadwrn 15 Medi 2012, rhwng 10yb a 1yp.

(Noder bod prif syddfa DGO bellach yn adeilad P5 ar Gampus Penglais)

MYND Â'CH ASTUDIAETHAU YMHELLACH - Diplomâu a Thystysgrifau Addysg Uwch

Beth yw Tystysgrif Addysg Uwch?

Rhaglen ran-amser o gyrsiau byr, sy'n werth 120 credyd, ac sy'n arwain at ddyfarniad israddedig mewn Prifysgol. Rydym yn cynnig:

Beth yw Diploma Addysg Uwch (240 credyd)

Gall myfyrwyr sydd wedi cyflawni Tystysgrif mewn Ecoleg Maes  neu'r Dystysgrif mewn Ecoleg Cadwraeth barhau â'u hastudiaethau trwy weithio tuag at y Diploma mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth. Ar ôl cyflawni unrhyw un o'r Tystysgrifau Ecoleg (120 credyd yr un), mae'n rhaid cyflawni 120 credyd arall er mwyn i fyfyrwyr gael y Diploma.Bydd unrhyw un o'r Tystysgrifau hyn yn rhoi cyfle i chi fynd ymhellach yn eich taith addysgol.

A fydd gennyf amser i gwblhau fy astudiaethau?

Rydym yn gwybod bod gan fyfyrwyr sy'n oedolion swyddi ac ymrwymiadau eraill. Mae ein Tystysgrifau Addysg Uwch yn cynnig graddfeydd amser o rhwng 2 a 5 mlynedd i'w cwblhau. Gwiriwch fanylion y Dystysgrif berthnasol ar gyfer y pwnc o'ch dewis neu siaradwch â chydlynydd y pwnc.

Israddedigion sy'n Cofrestru ar Gwrs

Dylai myfyrwyr israddedig sydd eisiau astudio modiwl Dysgu Gydol Oes yn rhan o'u hastudiaethau gradd gael cadarnhad gan Gyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr YADGO gyntaf. Mae gan israddedigion PA hawl i gael y gostyngiad ffi ar gyfer Cyrsiau Dysgu Gydol Oes.