Technoleg Gwybodaeth

Cyrsiau TG trwy’r adran Dysgu Gydol Oes

GweithfanCyfrifiaduron Eleni rydym wedi penderfynu cynnwys y cyrsiau cyfrifiadurol ar wahân i’r adran Celf a Dylunio yn y llyfryn. Gobeithio y bydd hyn yn eich helpu i lywio trwy’r cyrsiau’n haws ac yn eich helpu i weld y llwybrau cynnydd rhwng y cyrsiau.

Eich tiwtoriaid

Mae’r holl diwtoriaid yn brofiadol iawn yn eu maes. Mae llawer ohonynt yn defnyddio TG yn eu bywyd o ddydd i ddydd ar wahân i’w gwaith dysgu.

Ble cynhelir y cyrsiau?

Caiff yr holl gyrsiau eu cynnal mewn ystafell benodol ar Gampws Aberystwyth. Mae caffi gerllaw a gellir defnyddio’r ystafell fel canolfan galw heibio pan na fyddwn yn dysgu er mwyn i chi allu ymarfer a gwneud eich gwaith cartref. Cewch fynediad i’ch storfa ffeiliau bersonol eich hun a chewch e-bost prifysgol. Gellir trefnu hyn ar ôl i chi gofrestru; gweler yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth i Fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes  ar dudalen 108  yn y llyfryn Dysgu am Oes 2012-2013

Asesu

Bydd yr asesu yn cael ei wneud yn y dosbarth gyda’r tiwtor, gofynnir i chi ddylunio eich prosiectau eich hun o dan themâu penodol. Ar wahân i’r prosiectau yn y dosbarth byddwn yn gofyn i chi ymgymryd â phrosiect personol i’ch helpu i gyfuno eich dysgu.

Sgiliau i’r Gweithle

Bydd llawer o’r cyrsiau hyn yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i ddechrau diwydiannau cartref, i ddylunio gwefannau, a chynnal gwefannau i gwsmeriaid. Mae angen llawer o ymarfer. Efallai yr hoffech hefyd gyfuno cyrsiau TG â chyrsiau eraill megis Textile Design using Photoshop fel y gallwch ddylunio eich ffabrig eich hun i gael eu cynnwys gyda’r dillad o’r modiwl Up-cycled clothing.

Rydym hefyd yn cynnal Marketing Yourself as an Art Practitioner, a fydd yn cael ei gynnal yn Aberteifi eleni; bydd y modiwl yn rhoi’r sgiliau i chi adnabod cwsmeriaid busnes eich cynulleidfa darged. Argymhellir eich bod yn astudio’r cwrs ynghyd â’r cwrs dwys Dreamweaver Web Design.

Yn ogystal â chyrsiau Web Design ceir Image Editing for the Web a Flash sef pecyn animeiddio ar gyfer gwefannau.

Pa gwrs Photoshop ddylwn i ei ddewis?

Gweithfan cyfrifiadur Os taw’r ateb i’r rhan fwyaf o’r cwestiynau hyn yw ‘ydw’, yna Imaging for Photoshop yw’r cwrs i chi:

Rwy’n gwybod sut i agor ffeiliau delweddau â’u cadw mewn ffolderi

Rwy’n gwybod sut i fewnfudo lluniau i gyfrifiadur o’m camera digidol

Rwy’n gwybod beth yw picseli ac yn deall cydraniad delweddau

Rwy’n gwybod sut i gadw ac argraffu delweddau mewn meintiau gwahanol

Rwy’n gallu mewnfudo delweddau i ddogfennau Word neu PowerPoint

Rwyf wedi defnyddio Photoshop o’r blaen