Pwyllgor Ymgynghorol Staff /Myfyrwyr
Mae Pwyllgor Staff/Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes yn rhan hanfodol o’r Ysgol ac mae’n ddull ffurfiol ar gyfer cyfathrebu rhwng y myfyrwyr â’r Ysgol. Ar y Pwyllgor hwn cynrychiolir myfyrwyr y gwahanol ddisgyblaethau: Gwyddor Gymdeithasol, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Tramor Modern, y Dyniaethau a Chelfyddyd.Mae Pwyllgor Staff/Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes yn fforwm pwysig i drafod unrhyw faterion a phryderon sy’n codi. Er nad oes gan y Pwyllgor rymoedd ffurfiol i wneud polisïau, caiff ei swyddogaeth ymgynghorol ei gymryd o ddifrif gan yr Ysgol ac anogir yr holl fyfyrwyr i gymryd rhan. Yn ogystal, mae gan y Pwyllgor swyddogaeth gymdeithasol a gall gymryd yr awenau wrth gynnig a threfnu digwyddiadau cymdeithasol.
Pwrpas y Pwyllgor yw trafod cyd-destun a threfniadaeth rhaglenni academaidd, trefnu rhaglenni, trefniadau’r Ysgol, materion yn ymwneud â’r Amserlen, adnoddau, Cysylltiadau, digwyddiadau cymdeithasol ac i ystyried materion a godir gan fyfyrwyr yr Ysgol ynglŷn â’r holl agweddau ar brofiad myfyrwyr.
Os oes gennych chi farn i’w lleisio, a chithau eisiau i bobl wrando arnoch, cysylltwch ag un o gynrychiolwyr y myfyrwyr.
Peidiwch â phoeni os yw’r mater yn ymddangos yn ddibwys, neu os yw’n dda (neu’n ddrwg); mae siarad â chynrychiolydd y myfyrwyr yn ffordd o leisio’ch barn, ac yn ddull mwy personol o adrodd yn ôl na’r ‘ffurflen binc’ yr ydych yn ei llenwi ar ddiwedd pob cwrs.
Aelodau
|
Myfyrwyr | ||
|---|---|---|
|
Sandi Baker |
Gwyddorau | |
|
Alison Bradley |
Gwyddorau Cymdeithasol | |
|
Christina Holland |
Dyniaethau |
|
|
Kathleen Martin |
Dyniaethau | |
|
Malcolm Wheatley |
Celf a Dylunio |
|
|
Staff | ||
|---|---|---|
|
Alison Pierse |
Cydgysylltydd, Celfyddyd a Dylunio |
|
|
Bethany Freeman |
Secretary, Lifelong Learning/SSC |
|
|
Antonio Barriga Rubio |
Cadeirydd / Cydgysylltydd, Ieithoedd |
|