Tystysgrif Astudiaethau Ysgrifennu Creadigol

I mi mae hi?

Wrth gwblhau'r cyrsiau a gynigir drwy'r Dystysgrif, bydd gennych wybodaeth gynhwysfawr o'r grefft o ysgrifennu creadigol ynghyd â'i amryfal genres. Os ydych yn mwynhau ysgrifennu creadigol, ac os hoffech astudio mwy nag un cwrs, i chi y mae'r cynllun astudio hwn.

Mae ennill Tystysgrif ar ddiwedd y cwrs yn rhoi cydnabyddiaeth i'ch ymdrechion. Yn ogystal, hwyrach y hoffech fynd â'ch astudiaethau ymhellah, a gallwch ddefnyddio'r Dystysgrif fel pasbort i astudio ar lefel uwch.

Mae gennych bum mlynedd i gwblhau eich astudiaethau, ac o fewn y cyfnod hwnnw, gallwch astudio'r cyrsiau ar eich cyflymdra eich hunan. Ni chaiff pob cwrs ei gynnig bob blwyddyn, ond byddwn yn sicrhau bod y cyrsiau i gyd ar gael dros gyfnod o amser.

Os hoffech drafod y Dystysgrif, ffoniwch 01970 621580 a gofynnwch am y Cydgysylltydd Ysgrifennu Creadigol, neu e-bostiwch lzj@aber.ac.uk

Sut ydw i'n dechrau?

Os oes gennych ddiddordeb yn y dystysgrif, bydd angen ichi gofrestru. Gallwch gofrestru'n rhad ac am ddim ac, ar wahân i ffïoedd cwrs arferol, nid oes unrhyw gostau ychwanegol.

Sut mae cael ffurflen gais?

Cwblhawch y ffurflen sydd yn y Llyfryn Dysgu Gydol Oes neu cysylltwch â Swyddfa Dysgu Gydol Oes ar 01970 621580 neu learning@aber.ac.uk

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon y llawlyfr Myfyrwyr atoch. Bydd hwn yn rhoi'r holl wybodaeth i chi am gynnwys a gofynion asesu'r cyrsiau a'r rheoliadau sy'n rhan o'r Dystysgrif Ysgrifennu Creadigol.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym yma i wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad dysgu gorau.

Y Cynllun Astudio

Mae'r Dystysgrif yn cynnwys 120 o gredydau, y mae gofyn dewis 30 ohonynt o'r Cyrsiau Craidd. Ar ôl cwblhau 3 cwrs craidd a dewis a chwblhau  naw cwrs dewisol arall, byddwch wedi cwblhau'r Dystysgrif. Dangosir y cyrsiau sydd ar gael o fewn y Dystysgrif isod. Ni fydd pob ohonynt ar gael yn ystod y flwyddyn gyntaf.

(Noder: mae'r dystysgrif hon yn cael ei diwygio ar hyn o bryd. Am y wybodaeth diweddaraf cysylltwch â'r cydgysylltydd Liz Jones: lzj@aber.ac.uk)

Cyrsiau Craidd

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau'r tri modiwl craidd cyn symud ymlaen. Gellir astudio'r rhain mewn unrhyw drefn, ond rydym yn awgrymu mai'r drefn ganlynol fyddai'n fwyaf manteisiol.

1.  Exploring Creative Writing Techniques

2.  Vive la Difference! Understanding Genre

3.  Writing as a Creative Process: Text and Theory

Bydd y cyrsiau craidd yn rhoi ichi'r sgiliau sylfaenol a gwybodaeth am y grefft o ysgrifennu creadigol a'i hamryfal genres.

Cyrsiau Dewisol

Gellir dewis y 90 credyd sy'n weddill o blith rhestr o gyrsiau dewisol. Mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cadw'r hawl i ehangu neu gael gwared ar gyrsiau penodol, os bydd angen. Ni chaiff yr holl gyrsiau eu cynnig mewn un flwyddyn.

Cyrsiau 10 Credyd

Exploring Creative Writing Techniques

Writing as a Creative Process: Text and theory

Vive la Difference!  Understanding Genre

Developing your voice in writing

Developing your creativity

Writing For Personal Development

Writing Short Stories

Writing For Children: An introduction

Writing Freelance Features

Writing Poetry

More Poetry Writing

Novel Writing

More Novel Writing

Writing For Radio

Writing For the Ear

Blogging: Writing For The Web

Effective  Academic / Professional Writing

Autobiographical Writing

 

Cyrsiau 20 credyd

Extending Your Poetry Learning (20 credyd)

Extending Your Novel Writing (20 credyd)



Cyrsiau Ychwanegol

Mae gennym nifer o gyrsiau sy'n cyd-redeg â ac yn cefnogi ein Tystysgrifau. Dyma'r cyrsiau sy'n berthnasol i'r Tystygrif mewn Ysgrifennu Creadigol:

  • Words That Run With Wolves 1: Illustrating and Writing Creatively for Newborn to Eight Year Old Children
  • Words That Run With Wolves 2: Illustrating and Writing Creatively for Nine Year Olds to Young Adults
  • Introduction to Shakespeare
  • Reading Cinema: Introduction to Film studies
  • Early 20th Century literature
  • Mid 20th Century literature
  • Late 20th Century literature