Cyrsiau Uwchraddedig
Addysg
Sefydlwyd yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn 2003 ar ôl i'r Adran Addysg a'r Ganolfan Addysg Barhaus uno. Mae addysg yn broses gydol oes a dylai cwrs fod ar gael i bawb ym mha bynnag gyfnod y maent mewn bywyd.
Yn ddiweddar cwblhaodd myfyrwyr ymchwil yr ysgol draethodau ymchwil a arweiniodd at raddau MPhil a PhD. Mae arolygu ymchwil ar gael mewn nifer o feysydd, gan gynnwys astudiaethau plentyndod, addysg wledig ac ymchwil pedagogig.
Bellach caiff yr holl Hyfforddiant ac Addysg Cychwynnol i Athrawon ei ddarparu gan Ganolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn gweithio ar y cyd o dan enw'r Ganolfan i ddarparu hyfforddiant mewn pynciau TAR Uwchradd yn y rhanbarth hwn. Mae Aberystwyth hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer y sector Uwchradd mewn Saesneg a Drama, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh a Ieithoedd Modern. Mae'r holl gyrsiau a gynigir ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Themâu Ymchwil
Dyma rai o'r themâu ymchwil yn yr Adran:
- Ymchwil pedagogig gan gynnwys:
- Dysgu ac addysgu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pwnc
- Asesu TGCh
- Asesu ar gyfer dysgu
- Cyflawniad
- Cyd-destun dwyieithog
- Astudiaethau Plentyndod gan gynnwys:
- Sut mae plant yn dysgu; astudiaethau rhywedd
- Cyflawniad
- Astudiaethau iechyd a lles
- Ysgolion iach
- Datblygu'r cwricwlwm yng Nghymru a mannau eraill yn y DU
- Anghenion addysgol arbennig
- Addysg Wledig gan gynnwys:
- Partneriaethau mewn addysg;
- Addysg gymunedol
- Polisi addysgol lleol a chenedlaethol a'r effaith ar ysgolion bach
- Llwybrau Dysgu 14-19
- Addysg oedolion
TAR
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi uno mewn partneriaeth gyffrous i greu'r Ganolfan Addysg Athrawon yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd y Ganolfan yn hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd i roi'r cychwyn gorau posibl i athrawon dan hyfforddiant. Bydd y Ganolfan yn parhau i weithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y rhanbarth ac yn datblygu partneriaethau â hwy.
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau TAR.