Hyfforddi Athrawon

Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gyda’i gilydd yn darparu Addysg Gychwynnol Athrawon mewn partneriaeth gyffrous sef Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, un o  dair canolfan genedlaethol, sy’n hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd. Mae’r Ganolfan newydd yn gydweithrediad rhwng dau sefydliad traddiodiadol, y ddau ag enw da  dros gyfnod hir am ddarparu hyffroddaitn i ddarpar athrawon ond hefyd yn hollol ymwybodol o newidiadau ym myd addysg. Bydd y Ganolfan yn parhau i weithio a datblygu partneriaethau gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y rhanbarthau ac yn rhoi’r cychwyn gorau posibl i athrawon dan hyfforddiant.  Bydd hi’n cynnig addysg uwch o’r safon uchaf mewn dau o ardaloedd prydferthaf Prydain. . Mae awyrglych y Ganolfan, yn Aberystwyth a Bangor, yn groesawgar a chyfeillgar a bydd hyfforddeion yn cael hyfforddiant a chefnogaeth o safon.

Pam astudio ar gwrs TAR yn Aber?

Yn Aberystwyth, gallwn gynnig i chi:

• Amgylchedd y mae uwchraddedigion yn ei gael yn ddeniadol, cydnaws a chyfeillgar

• Ysgol sy'n ymfalchïo yn y gofal a gymer yn lles a datblygiad proffesiynol ei myfyrwyr.

• Prifysgol sydd â thraddodiad gwiw o gyrsiau hyfforddi i ddarpar‐athrawon ond sydd ar yr un pryd yn darparu addysg hollol gyfoes.

Statws Athro/Athrawes Gymwysedig [SAC] a dysgu yn y DU a thramor

Mae'r Statws hwn a enillir mewn sefydliadau yng Nghymru yn hollol gyfwerth â'r Statws yn Lloegr.  Bydd pawb sy'n ennill y Statws yn Aberystwyth yn gymwys i ddysgu ym mhobman yn y DU yn ogystal â nifer o wledydd eraill. Gall myfyrwyr sy'n ennill y statws yng Nghymru wneud eu blwyddyn sefydlu yn Lloegr a rhannau eraill o’r DU.

Pynciau

Yn Aberystwyth: 

 
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynnig pynicau TAR Uwchradd yn Celf a Dylunio, Mathemateg, Cerddoriaeth, Gweithgareddau Awyr Agored, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Gwyddoniaeth (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) a Chymraeg

Gofynion Mynediad

I gael eich ystyried am gyfweliad ar gyfer un o'n cyrsiau TAR Uwchradd bydd yn rhaid eich bod yn meddu ar rai cymwysterau ffurfiol. Yn ddelfrydol, dylai fod gennych brofiad o weithio, naill ai'n wirfoddol neu'n gyflogedig, gyda phlant neu bobl ifanc ond nid yw hyn yn orfodol. Cymeradwyir hefyd arsylwi mewn ysgol ond nid yw’n orfodol chwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o grwpiau nad ydynt wedi eu cynrychioli'n ddigonol e.e. dynion, siaradwyr Cymraeg, o leiafrifoedd ethnig neu bobl ag anableddau.

Profion Llythrennedd a Rhifedd

Y cam cyntaf yn y broses ddewis fydd i chi ymgymryd â phrofion Llythrennedd a Rhifedd.

Prawf Llythrennedd 1 (30 munud o hyd)

  • Bydd y dasg hon yn profi eich sgiliau sillafu, atalnodi, gramadeg a dealltwriaeth mewn Saesneg.
  • Mae copi enghreifftiol o'r papur ar gael yma. UCET Literacy Test

Prawf Llythrennedd 2 (30 munud o hyd)

  • Bydd y dasg hon yn profi eich sgiliau darllen, deall ac ysgrifennu ac yn cynnwys darn estynedig o ysgrifennu.
  • Disgwylir i ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg gwblhau’r dasg hon yn y Gymraeg.

Prawf Rhifedd (30 munud o hyd)

  • Bydd y prawf rhifedd yn canolbwyntio ar y sgiliau ffwythiannol mathemategol sy'n ofynnol gan athrawon yn eu rôl broffesiynol .
  • Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael o’r dasg hon. Gall ymgeiswyr ddewis i ateb mewn naill iaith neu’r llall.
  • Ni chaniateir i chi ddefnyddio cyfrifiannell ar gyfer y prawf hwn.
  • Mae copi enghreifftiol o'r papur hwn ar gael yma. Prawf Rhifedd: Enghraifft

Deunydd cefnogi ychwanegol:

Cymwysterau ffurfiol

Bydd arnoch angen:

• Fel arfer gradd anrhydedd sengl neu gyfun, lle mae o leiaf 50% ohoni yn bwnc sy'n uniongyrchol berthnasol i addysgu eich pwnc mewn ysgol Uwchradd – i gael rhagor o wybodaeth am hyn, edrychwch ar dudalennau unigol y pynciau.

• Gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg TGAU neu gyfwerth.

Profion Cywerthedd

Cynhelir profion cywerthedd gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes os nad yw’r cymwysterau TGAU neu eu cyfwerth gennych yn barod. I ddechrau ym Medi  cynhelir y profion fel arfer yn Ebrill gyda chyfle i ailsefyll ym Mehefin. Y dyddiadau nesaf yw 16 Ebrill 2013 a 13 Mehefin 2013.

 

Yn y cyfweliad byddwn yn edrych i weld:

• a ydych yn gwybod pam yr ydych eisiau bod yn athro;
• a ydych yn dangos gwir ddiddordeb mewn addysgu ac yn deall materion addysgol cyfredol;
• a ydych yn frwd am y pwnc yr hoffech hyfforddi i'w addysgu;
• a ydych yn gallu cyfathrebu'n dda;
• a oes gennych synnwyr digrifwch;
• a ydych yn debygol o allu ffurfio perthynas broffesiynol effeithiol â disgyblion ac oedolion;
• a ydych y math o unigolyn a all dderbyn cyngor a gweithredu ar y cyngor hwnnw;
• a oes gennych yr egni, y dycnwch a'r dyfalbarhad
 
Costau teithio
Byddwn ni’n cyfrannu at eich costau teithio i ddod i gyfweliad yn Aberystwyth

Gwybodaeth ychwanegol am y cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bydd y cwrs fel afer yn rheded rhwng Medi a diwedd Mehefin. Bydd hyfforddeion ar leoliad mewn ysgolion am 25 wythnos. Gydag arweiniad gan diwtoriaid y brifysgol a mentoriaid ysgol sy wedi eu hyffroddi, bydd hyn yn cynnwys dysgu yn y dosbarth a gwahanol gweithgareddau yn yr ysgol.

Yn ogystal â’r cyrsiau yn y prif bynciau, mae rhaglen y cwrs yn y Brifysgol yn cynnwys darlithiau a seminarau  ar Astudiaethau Proffesiynol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a dysgu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.


Bydd myfyrwyr Gwyddoniaeth yn dilyn cwrs Gwyddoniaeth Gytbwys yn ogystal â’u prif bwnc. Bydd y myfyrwyr eraill yn dewis cwrs pwnc opsiwn, allan o ryw bum pwnc, yn ogystal â’u prif bwnc.
 

Cefnogaeth Ariannol ac Anogaethau ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

Mae nifer o ffynonellau arian a chymorth ar gael i chi fel athro/athrawes dan hyfforddiant tra’ch bod yn cwblhau eich cwrs. Mae’r hyn y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar y lle yr ydych fel arfer yn byw, y pwnc yr ydych yn cael eich hyfforddi i’w addysgu, yn ogystal â’ch amgylchiadau personol.
 
Cysylltwch â’ch Cwmni Cyllid Myfyrwyr lle dych chi’n byw fel arfer:
 
Os ydych fel arfer yn byw yn:
 
Cymru - http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Lloegr - www.direct.gov.uk/studentfinance
Gogledd Iwerddon - www.studentfinanceni.co.uk
Yr Alban - www.student-support-saas.gov.uk
Unrhwy wlad arall yr UE - www.direct.gov.uk/studentfinance
 
Bydd grantiau Llywodraeth Cymru yn amrywio bob blwyddyn ac yn anffodus nid yw ffigurau 2013/14 wedi eu rhyddhau eto.  Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar eu safle we fan hyn.

Prif fanylion y grantiau am 2012/13 oedd:

 

Dyma’r grantiau cymell ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru a fydd ar gael i fyfyrwyr newydd cymwys ar gyrsiau ôl-radd penodedig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig yn y flwyddyn academaidd 2012/13:-  
Y radd anrhydedd y mae’r myfyriwr yn meddu arni Cyrsiau uwchradd ôl-radd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, ieithoedd modern a Chymraeg

Cyrsiau uwchradd ôl-radd mewn TGCh, dylunio a thechnoleg, Saesneg, bioleg, hanes, Addysg Grefyddol, celf, Addysg Gorfforol, cerdd, drama a daearyddiaeth

Cyrsiau cynradd ôl-radd 

1af (a 2.1 mewn ffiseg) £15,000 £3,000
2.1 (heblaw am ffiseg) £10,000 £0
2.2 £6,000 £0

 

Ni fydd grantiau cymell ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon ond ar gael yn y pynciau neu’r meysydd astudio a gaiff eu rhestru uchod. Ar gyfer cyrsiau uwchradd cyfun, y pwnc cymwys fydd y prif bwnc a gaiff ei astudio. Ni fydd unrhyw grantiau cymell ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon ar gael ar gyfer gwyddoniaeth gyffredinol, astudiaethau busnes na chyrsiau astudiaethau awyr agored.

Bydd myfyrwyr cymwys sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dechrau cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd amser llawn yn y flwyddyn academaidd 2012/13 yn gallu derbyn grant ffioedd dysgu newydd o hyd at £5,535, fydd yn gadael £3,465 i'w dalu.

Bydd y grantiau cymell ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon ynghyd â’r grant ffioedd dysgu newydd ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ôl-radd amser llawn yn y flwyddyn academaidd 2012/13 ac sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn sicrhau bod y myfyrwyr yn derbyn cyllid grant sy’n gyfatebol i’r hyn y mae myfyrwyr yn ei dderbyn yn Lloegr.

Bydd ymgeiswyr sydd yn preswylio fel arfer mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn gymwys am y grant ffioedd dysgu o hyd at £5,535, fydd yn gadael £3,465 i'w dalu.

Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Os byddwch yn hyfforddi i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys am dal cymhelliant ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y grantiau hyn tua mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Lleoliadau Ysgol

Mae Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ac yn Sir Benfro. Hefyd mae ambell i ysgol yn cynnig ambell i bwnc mewn rhannau eraill o Gymru.

Bydd yr Ysgolion Partner yn rhoi i ni syniad o’r nifer o hyfforddeion a’r pynciau y gallant eu cynnig ym mis Mai/Mehefin ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Gall  nifer helaeth o newidiadau gymryd lle mewn ysgolion cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd ac ni fydd pob ysgol yn gallu cadw at y cynlluniau a baratowyd ym mis Mehefin. Felly, nid oes modd gwarantu lleoliadau mewn ardaloedd penodol.
 
Ystyrir ceisiadau am leoliadau penodol ar sail y flaenoriaeth ganlynol:  

  1. Myfyriwr ag anabledd

  2. Rhiant sengl â phlentyn ifanc (10 oed neu’n iau)

  3. Rhiant â phlentyn ifanc (10 oed neu’n iau)

  4. Myfyriwr â morgais

  5. Myfyriwr â chytundeb tenantiaeth hirdymor

  6. Unrhyw fyfyriwr

 Llety
Ni ddylai unrhyw fyfyriwr ymgymryd â chytundeb tenantiaeth yn Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn. Ychydig iawn o leoliadau sydd ar gael yn ardal Aberystwyth.
 
Darperir gwybodaeth am lety preifat mewn tai a chyda landlordiaid yn ardal Aberystwyth ar gyfer hyfforddeion TAR erbyn diwedd mis Mehefin 2013. Bydd y llety ar gael dim ond ar gyfer yr wythnosau hynny sy’n berthnasol i’r cwrs yn y brifysgol. Darperir gwybodaeth am lety ar bwys ysgolion partner ym mis Medi 2013 pan fyddwch yn cael gwybod am eich lleoliad.