Hanes
Y Cwrs
Mae'r cwrs yn ceisio rhoi'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i athrawon dan hyfforddiant fod yn athrawon Hanes llwyddiannus. Mae'n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer deall y broses dysgu ac addysgu sy'n hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau dosbarth proffesiynol ardderchog a safonau dysgu uchel.
Caiff yr athrawon dan hyfforddiant eu cyflwyno i ystod o sgiliau dysgu hanfodol megis cynllunio a pharatoi gwersi, cwestiynu, egluro, marcio gwaith disgyblion, paratoi adnoddau, rheolaeth yn y dosbarth a strategaethau cadw trefn er mwyn cyflwyno athrawon Hanes effeithlon, brwdfrydig a chreadigol. Mae TGCh yn darparu cyfleoedd i wella eich cyflwyniad yn y dosbarth ac mae'n elfen bwysig o'r cwrs.
Disgwylir i'r athrawon dan hyfforddiant gymryd rhan weithredol yn y cwrs; er enghraifft cyflwyno gwersi micro, creu adnoddau, datblygu sgiliau meddwl ac arbrofi â syniadau newydd ar gyfer dysgu Hanes.
Lluniwyd y cwrs i baratoi athrawon dan hyfforddiant i ddysgu Hanes yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar lefel CA3, CA4 ac ôl-16, gan gynnwys cyrsiau AS ac A2. Mae paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau Cyfnod Allweddol 4 a Safon Uwch yn nodwedd ganolog o'r cwrs.
Yn ogystal â seminarau'r prif bwnc, mae'r cwrs TAR hefyd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a materion addysgol, gan gynnwys:
-
Darpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
-
Sgiliau allweddol
-
Sgiliau meddwl
-
Bagloriaeth Cymru
-
Cymorth Cyntaf
-
Amddiffyn plant
-
Addysg iechyd
-
Disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol
-
Asesu
-
Addysgu ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy
-
Cwricwlwm Cymreig
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael eich ystyried am gyfweliad bydd yn rhaid i chi fod â gradd, a dylai o leiaf 50% o' r radd fod yn gysylltiedig â Hanes. Bydd gan yr holl athrawon dan hyfforddiant fylchau yn eu gwybodaeth am y pwnc a diben y cwrs yw mynd i'r afael â hyn. Bydd yn rhaid i chi hefyd fod â gradd C mewn Mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU neu gymhwyster cyfwerth. Mae'r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau hyn os nad oes gennych y cymwysterau hyn.