TGCh

Y Cwrs

Mae'r cwrs TGCh yn ceisio rhoi'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i athrawon dan hyfforddiant fod yn athrawon TGCh llwyddiannus. Lluniwyd y cwrs i baratoi athrawon dan hyfforddiant i ddysgu TGCh yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar lefel CA3, CA4 ac ôl-16, gan gynnwys cyrsiau AS ac A2. Disgwylir i athrawon dan hyfforddiant gyfrannu'n weithredol i bob sesiwn a gynhelir yn y brifysgol.


Mae agwedd ymarferol amlwg i'r gwaith cwrs ac mae'n cysylltu'n agos â'r dysgu a'r addysgu. Yn fuan ar ddechrau'r cwrs caiff yr athrawon dan hyfforddiant eu cyflwyno i ystod o gynlluniau a strategaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth ddysgu TGCh ar lefel uwchradd. Byddwch yn edrych ar y modd y mae disgyblion yn dysgu a datblygu. Byddwch yn ystyried ffactorau i gadw mewn cof wrth ddatblygu gwersi sy'n ddiddorol, cytbwys a pherthnasol i ofynion y dysgwyr. Byddwch yn cael cyfleoedd i archwilio i ffyrdd gwahanol y gall disgyblion ddatblygu dealltwriaeth o TGCh, a dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio i gefnogi'r rhain.


Bydd yr athrawon dan hyfforddiant yn paratoi ac arddangos gwaith ymarferol, gwaith tebyg i'r hyn y bydd y disgyblion yn ei wneud, a chânt eu hannog i feddwl am y goblygiadau i drefn a rheolaeth y dosbarth. Ystyrir amrywiaeth o ddulliau dysgu. Agweddau pwysig eraill ar waith yn y rhan hon o'r cwrs yw cynllunio gwersi, gwerthuso gwersi ac asesu dysgwyr.


Bydd y rhai sy'n dewis dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, seminarau ychwanegol a phenwythnosau trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â seminarau'r prif bwnc, mae'r cwrs TAR hefyd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a materion addysgol, gan gynnwys:

  • Darpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

  • Sgiliau allweddol

  • Sgiliau meddwl

  • Bagloriaeth Cymru

  • Cymorth Cyntaf

  • Amddiffyn plant

  • Addysg iechyd

  • Disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol

  • Asesu

  • Addysgu ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy

  • Cwricwlwm Cymreig

Gofynion Mynediad

Bydd yn rhaid i chi gael gradd gyntaf. Gall y radd fod mewn TGCh neu mewn pwnc sy'n cynnwys elfennau technegol, creadigol neu elfennau eraill priodol sy'n berthnasol i TGCh, neu unrhyw bwnc arall sy'n golygu defnydd adeiladol sylweddol o TGCh. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys astudiaethau busnes ac astudiaethau cyfryngau. Byddwn yn ystyried cymwysterau uwchraddedig eraill neu brofiad gwaith fel tystiolaeth o'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth am TGCh a'ch gallu i'w ddefnyddio. Efallai eich bod wedi gweithio gyda dogfennau cymhleth neu dempledi cyflwyniad, wedi trin cronfeydd data, wedi modelu â thaenlenni, rhaglennu, dadansoddi ystadegau, dylunio gwefannau neu ddylunio graffig.


Efallai fod gan athrawon TGCh dan hyfforddiant 'fylchau' yn eu cwricwlwm i'w llenwi yn ystod y cwrs. Oherwydd hyn, mae'r gallu i astudio'n unigol yn ddisgybledig yn un o nodweddion athrawon dan hyfforddiant sy'n gwneud yn dda. Nodweddion personol eraill yw chwilfrydedd, dyfalbarhad a threfn. Os ydych yn fyfyriwr graddedig sydd â digonedd o'r rhinweddau hyn, dylech ffynnu ar y cwrs.


Gofynion TGAU: Cyn dechrau'r cwrs bydd yn rhaid i chi hefyd ddarparu tystiolaeth eich bod wedi cyflawni graddau TGAU A - C (neu gymwysterau cyfwerth) mewn Iaith Saesneg a Mathemateg. Mae'r Ysgol yn cynnal profion Saesneg a Mathemateg cyfwerth i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn.