Ieithoedd Tramor Modern
Y Cwrs
Mae'r cwrs Ieithoedd Tramor Modern yn ceisio rhoi'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i athrawon dan hyfforddiant fod yn athrawon llwyddiannus. Lluniwyd y cwrs i baratoi athrawon dan hyfforddiant i ddysgu Ieithoedd Tramor Modern yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar lefel CA3, CA4 ac ôl-16, gan gynnwys cyrsiau AS ac A2. Ym mhob un o'r sesiynau yn y brifysgol disgwylir i'r athrawon gymryd rhan weithredol. Mae'r gwaith cwrs yn waith ymarferol yn bennaf ac mae'n cysylltu'n agos â'r dysgu a'r addysgu. Mae gan yr adran Ieithoedd Tramor Modern yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes brofiad helaeth o ran dysgu Ieithoedd Tramor Modern. Cafodd y cwrs Ieithoedd Tramor Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth ei arolygu gan ESTYN ym mis Ionawr 2007 a chafodd Radd 1 (Rhagorol).
Ar ddechrau'r cwrs cyflwynir yr athrawon dan hyfforddiant i amrywiaeth o gynlluniau a strategaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth ddysgu Ieithoedd Tramor Modern ar lefel uwchradd. Byddwch yn edrych ar y modd y mae disgyblion yn dysgu a datblygu. Byddwch yn ystyried ffactorau i gadw mewn cof wrth ddatblygu gwersi sy'n ddiddorol, cytbwys a pherthnasol i ofynion y disgyblion. Bydd gennych gyfleoedd i ystyried y gwahanol ffyrdd y gall disgyblion gaffael iaith dramor fodern , ac yn cyfarwyddo ag amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio i gefnogi'r rhain.
Bydd yr athrawon dan hyfforddiant yn paratoi ac arddangos gwaith ymarferol, gwaith tebyg i'r hyn y bydd y disgyblion yn ei wneud, a chânt eu hannog i feddwl am y goblygiadau i drefn a rheolaeth y dosbarth. Ystyrir amrywiaeth o ddulliau dysgu. Agweddau pwysig eraill ar waith yn y rhan hon o'r cwrs yw cynllunio gwersi, gwerthuso gwersi a defnyddio TGCh wrth ddysgu Ieithoedd Tramor Modern.
Yn ogystal â Ieithoedd Tramor Modern, mae'r cwrs TAR hefyd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a materion addysgol, gan gynnwys:
-
Darpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
-
Anghenion dysgu
-
Sgiliau allweddol
-
Bagloriaeth Cymru
-
Cymorth Cyntaf
-
Addysg iechyd
-
Disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol
-
Asesu
-
Addysgu ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy
-
Cwricwlwm Cymreig
Gofynion Mynediad
Bydd yn rhaid i chi fod â gradd mewn Iaith Dramor Fodern, neu mewn unrhyw bwnc arall os ydych yn siaradwr brodorol yr iaith yr ydych am ei dysgu. Mae'r gallu i astudio'n unigol yn ddisgybledig yn un o nodweddion athrawon dan hyfforddiant sy'n gwneud yn dda. Nodweddion personol eraill yw chwilfrydedd, dyfalbarhad a threfn. Os ydych yn fyfyriwr graddedig sydd â digonedd o'r rhinweddau hyn, dylech ffynnu ar y cwrs. Dylid gwneud ceisiadau trwy'r broses GTTR.
Cyn dechrau'r cwrs bydd yn rhaid i chi hefyd ddarparu tystiolaeth eich bod wedi cyflawni graddau TGAU A - C (neu gymwysterau cyfwerth) mewn Iaith Saesneg a Mathemateg. Mae'r Ysgol yn cynnal profion Saesneg a Mathemateg cyfwerth i TGAU i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn.