Gwyddoniaeth
Y Cwrs
Mae'r cwrs Gwyddoniaeth yn ceisio rhoi'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i athrawon dan hyfforddiant fod yn athrawon llwyddiannus. Lluniwyd y cwrs i baratoi athrawon dan hyfforddiant i ddysgu Gwyddoniaeth yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar lefel CA3, a'u harbenigedd ar lefel CA4 ac ôl-16, gan gynnwys cyrsiau AS ac A2. Disgwylir i athrawon dan hyfforddiant gyfrannu'n weithredol i bob sesiwn a gynhelir yn y brifysgol.
Mae agwedd ymarferol amlwg i'r gwaith cwrs ac mae'n cysylltu'n agos â'r dysgu a'r addysgu. Mae gan dîm dysgu'r Brifysgol brofiad dysgu gwyddoniaeth eang ar draws y cwricwlwm Gwyddoniaeth. Cafodd y cwrs Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ei arolygu gan ESTYN ym mis Ionawr 2007 a chafodd Radd 1 (Rhagorol).
Yn fuan ar ddechrau'r cwrs caiff yr athrawon dan hyfforddiant eu cyflwyno i ystod o gynlluniau a strategaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth ddysgu Gwyddoniaeth ar lefel uwchradd. Byddwch yn edrych ar y modd y mae disgyblion yn dysgu a datblygu. Byddwch yn ystyried ffactorau i gadw mewn cof wrth ddatblygu gwersi sy'n ddiddorol, cytbwys a pherthnasol i ofynion y dysgwyr. Byddwch yn cael cyfleoedd i archwilio i ffyrdd gwahanol y gall disgyblion ddatblygu dealltwriaeth o Wyddoniaeth, a dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio i gefnogi'r rhain.
Bydd yr athrawon dan hyfforddiant yn paratoi ac arddangos gwaith ymarferol, gwaith tebyg i'r hyn y bydd y disgyblion yn ei wneud, a chânt eu hannog i feddwl am y goblygiadau i drefn a rheolaeth y dosbarth. Ystyrir amrywiaeth o ddulliau dysgu. Agweddau pwysig eraill ar waith yn y rhan hon o'r cwrs yw diogelwch yn y labordy, cynllunio gwersi, gwerthuso gwersi a defnyddio TGCh wrth ddysgu gwyddoniaeth.
Yn ogystal â Gwyddoniaeth, mae'r cwrs TAR hefyd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a materion addysgol, gan gynnwys:
-
Sgiliau allweddol
-
Bagloriaeth Cymru
-
Cymorth Cyntaf
-
Amddiffyn plant
-
Addysg iechyd
-
Asesu
-
Addysgu ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy
-
Cwricwlwm Cymreig
Gofynion Mynediad
Bydd yn rhaid i chi fod â gradd, a dylai o leiaf 50% o'r radd gynnwys Gwyddoniaeth. Rydym wedi derbyn myfyrwyr gyda graddau mewn gwyddor chwaraeon, gwyddor ceffylau, graddau yn y maes meddygol a graddau perthnasol eraill. Bydd gan yr holl fyfyrwyr Gwyddoniaeth TAR, waeth beth fo'u pwnc gradd, 'fylchau' yn eu cwricwlwm i'w llenwi yn ystod y cwrs. Oherwydd hyn, mae'r gallu i astudio'n unigol yn ddisgybledig yn un o nodweddion athrawon dan hyfforddiant sy'n gwneud yn dda. Nodweddion personol eraill yw chwilfrydedd, dyfalbarhad a threfn. Os ydych yn fyfyriwr graddedig sydd â digonedd o'r rhinweddau hyn, dylech ffynnu ar y cwrs.