Cymraeg
Y Cwrs
Mae’r Gymraeg yn bwnc craidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae’r sgiliau y bydd dysgwyr yn eu caffael fel rhan o wersiCymraeg yn sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio yndraws bynciol ac yn drawsgwricwlaidd. Cyflwynir iddynt sgiliaudefnyddiol drwy gyfrwng gweithgareddau fydd yn hybu eudatblygiad llafar, eu gallu i ddarllen a’u gallu i ysgrifennu. Anelirtuag at eu meithrin i ddod yn siaradwyr hyderus mewn amrywiolgyweiriau, yn ddarllenwyr brwd ac yn ysgrifennwyr hyderus fyddyn mynegi’u hunain yn glir a chroyw.
Drwy gyfrwng y cwrs yn y coleg, cyflwynir cyfleoedd ihyfforddeion ddatblygu sgiliau fydd yn eu galluogi i gynlluniogwersi, cwestiynu’n effeithiol, asesu cyflawniad disgyblion, paratoiadnoddau addysgu, rheoli dosbarth a strategaethau amrywiol igyfoethogi’r holl broses o addysgu ar lawr y dosbarth. Rhoddircyflwyniad i’r Gymraeg fel mamiaith ac fel ail iaith.Bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan weithredol yn y sesiynaudrwy gyfrwng gwersi meicro, chwarae rôl, datblygu sgiliaumeddwl ac arbrofi gyda syniadau newydd fydd, gobeithio yn foddi danio dychymyg y dysgwyr yn y dosbarth! Canolbwyntir arfeithrin sgiliau defnyddiol drwy gyfrwng amrywiol weithgareddauymarferol a pherthnasol i brofiad a gallu’r dysgwyr.Yn ychwanegol i’r pwnc bydd sesiynau yn eich paratoi ar gyferagweddau trawsgwricwlaidd megis:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Sgiliau Allweddol
- Sgiliau Meddwl
- Y Fagloriaeth
- Cymorth Cyntaf
- Amddiffyn Plant
- Addysg Iechyd
- Asesu ar gyfer dysgu
- Datblygiad Cynaladwyedd a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Cymorth gyda Chostau Teithio
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn eich cynorthwyo gyda chostauteithio i gyfweliad.
Amodau derbyn
Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd yn rhaid cael gradd,gydag o leiaf 50% o’r radd honno’n Y Gymraeg neu’n gysylltiedigâ’r Gymraeg mewn rhyw ffordd e.e Astudiaethau Cyfryngau,Drama. Bydd hefyd angen gradd C TGAU neu gymhwystercyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg. Os nad yw hyngennych, gallwch sefyll prawf yn y Brifysgol fydd yn cyfateb i’rcymhwyster ac a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i’r cwrs osbyddwch yn llwyddiannus.