Datblygu Staff: Cyflwyniad
Yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (YADGO) rydym ni’n ymrwymo i gefnogi ein haelodau o staff mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (GDSYA) a’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) . Rydym ni am i bob aelod o staff berfformio hyd eithaf ei allu, a chael y cymorth gorau sydd ar gael.
Yn ogystal â GDSYA a’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) mae YADGO yn cynllunio ac yn cyflenwi datblygiad addysgol a phroffesiynol ei staff. Mae YADGO yn darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus.
Nod y dudalen hon yw gosod popeth sy’n ymwneud â datblygiad Staff gyda’i gilydd yn rhwydd. Bydd hyn y fuddiol i bob un ohonom ni a gallwn weld beth sydd ar gael.
Ein nod yw:
- cefnogi anghenion holl aelodau staff ein Hysgol. Os na allwn ni ddarparu’r hyfforddiant, fe geisiwn eich gosod ar y trywydd iawn.
- eich hysbysu chi am y cyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth neu yn ein sefydliadau partner.
Rydym ni’n dymuno:
- gwrando ar eich anghenion a’u hystyried
- defnyddio’r arbenigedd sydd gennym yn YADGO. Yn sicr hoffem weld cydweithio rhwng yr holl adrannau: Cymraeg i Oedolion, TAR, TUAAU, CAA a Dysgu Gydol Oes.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Ddatblygu Staff, cysylltwch â:
Antonio Barriga Rubio, aob@aber.ac.uk, 01970 622093
Rhagor o wybodaeth
- Cyrsiau sydd ar gael gan ein Hysgol ni
- Cyrsiau sydd ar gael gan GDSYA
- Cyrsiau sydd ar gael gan Sefydliadau eraill
- Y Gronfa Datblygu Staff
- Arsylwi Cymheiriaid
Nodwch unrhyw awgrymiadau a allai fod gennych chi am gyrsiau neu weithdai yn ein hysgol:
tfa_Awgrymiadau