Dr Andrew James Davies,
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-Raddedig a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Darlithydd Addysg.
BA (Anhr.), MA, PhD (Cymru), TAR.
Cyswllt
Ebost: ajd2@aber.ac.uk
Swyddfa: Aberystwyth University, Old College, King Street , Aberystwyth, Ceredigion. SY23 2AX
Rhif Ffon: 01970 628743
Dysgu
Mae Dr Andrew James Davies yn darlithio ar y cynlluniau gradd Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ac yn arbenigo yn dysgu modiwlau ar amrywiaeth ddiwylliannol yn addysg, dysgu yn y gweithle a pholisi yn y blynyddoedd cynnar. Cyn ymuno â’r Ysgol Addysg a Gydol Oes, roedd yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac wedyn yn Uwch-ymgynghorydd i un o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yng Nghymru ym maes ymchwil gymdeithasol.
Ymchwil
Y mae Andrew yn ymchwilydd gweithgar a chanddo ystod eang o ddiddordebau ymchwil academaidd a chymhwysol, gan gynnwys:
- Cymdeithaseg Addysg a Phlentyndod.
- Addysg, dwyieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol.
- Polisi plentyndod a theuluoedd.
- Datblygu’r Gweithlu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Rhwydweithiau 14-19.
- Anfodlonrwydd ymhlith Pobl Ifanc a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc sydd yn ‘NEET’ neu mewn perygl o fod felly.
- Swyddogaeth y Trydydd Sector yn darparu dysgu.
Cyhoeddiadau
Dyma restr dethol o gyhoeddiadau academaidd.
Erthyglau mewn cylchgronau:
- Davies, A. J. a Trystan, D. (2012) ‘Build it and They Shall Come?’ An Evaluation of Qualitative Evidence Relating to Student Choice and Welsh-Medium Higher Education.’ International Journal of Bilingual Education and Bilingualism, 15 (2): 147-164.
- Drakeford, M., Scourfield, J., Holland, S. a Davies, A. (2009) ‘Welsh children’s views on government and participation.’ Childhood: A Journal of Global Child Research, 16 (2): 247-264.
- Scourfield, J., Dicks, B. Holland, S., Drakeford, M. a Davies, A. (2006) ‘The significance of place in middle childhood: qualitative research from Wales.’ British Journal of Sociology, 57 (4): 577-95.
- Scourfield, J. a Davies, A. (2005) ‘Children’s accounts of Wales as racialised and inclusive.’ Ethnicities 5, 1: 83-107.
- Scourfield, J., Holland, S. a Davies, A. (2003), ‘Wales and Welshness in Middle Childhood’, Contemporary Wales 16, 83-100.
Llyfrau:
- Scourfield, J., Dicks, B. Drakeford, M. a Davies, A. (2006) Children, Place and Identity: Nation and Locality in Middle Childhood, Llundain, Routledge.
Astudiaethau Ymchwil Gymhwysol a Pholisi
Mae Andrew wedi arwain nifer fawr o astudiaethau cymhwysol a gwerthusiadau ar ran ystod o gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys AdAS Llywodraeth Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Achub y Plant, Bwrdd yr Iaith, y Loteri Fawr, SkillsActive, Skills for Health, a sawl Awdurdod Lleol. Isod gweler rhestr o brosiectau diweddar:
Pobl Ifanc , Anfodlonrwydd a Chynhwysiad
- Gwerthusiad Prosiect Ymgysylltu (Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, 2011-12)
- Gwerthusiad Llwybrau i’r Copa (Urdd Gobaith Cymru, 2010).
- Gwerthusiad Cronfa Pobl Ifanc y Loteri Fawr (Y Loteri Fawr, 2007-09).
- Gwerthusiad Rhaglen i Ysgolion a’r Rhaglen Dysgu’n Hyblyg (Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, 2008).
- Gwerthusiad Rhaglen Cynhwysiad ‘Ieuenctid yn Gyntaf’ (Cyngor Sir Gaerfyrddin, 2008).
- ‘Dysgu a Gwaith’: Ymchwil ac Adolygiad parthed Darpariaeth Hyfforddi Alwedigaethol mewn Llety gyda Chymorth i bobl ifanc (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003).
- Gwerthusiad Darpariaeth Cynhwysiad mewn Ysgolion Uwchradd ym Mhowys (Cyngor Sir Powys, 2002).
Addysg Ôl-16 ac Uwch
- ‘Dewis Da’: Ymchwil i Adnabod Arfer Dda wrth Annog Myfyrwyr Addysg Bellach i Barhau â’u Haddysg drwy Gyfrwng y Gymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2011-12).
- Ymchwil Ansoddol ymysg Darpar Fyfyrwyr Addysg Uwch parthed y Ffactorau sy’n Effeithio ar Ddewis Cwrs Prifysgol ac Effaith Cyfrwng y cwrs hwnnw ar y Penderfyniad (Y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, 2008).
- Ymchwil i Gydnabod a Gwobrwyo Rhagoriaeth ym maes Dysgu ôl-16 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007).
- Cynllun Braenaru Bro Ddyfi – Adnabod agweddau a safbwyntiau tuag at Ddarpariaeth Dysgu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2006).
Polisi Plentyndod
- Gwerthusiad o Weithgareddau gan y grŵp Monitro Cymru ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Grŵp Fonitro’r UNCRC Cymru, 2007).
- Ymgynghoriaeth ar Raglenni Effeithiol: Monitro Traweffaith ar Addysg a Thlodi (Achub y Plant, 2007).
Datblygu’r gweithlu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Cynllun Datblygu’r Gweithlu i gefnogi darparu strategaethau Dringo’n Uwch, Bwyd a Ffitrwydd ac Ansawdd Bwyd (SkillsActive a Skills for Health, 2009).
- Cwmpasu’r Sgiliau ac Anghenion Dysgu a Datblygu ym maes Hybu Iechyd Meddwl ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, 2009).
- Datblygu Crynodebau Galwedigaethol ar gyfer y Gweithlu sy’n Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (Cyngor Datblygu’r Gweithlu Plant a Phobl Ifanc, 2008).
- Gwerthusiad Llwybrau Dysgu Abertawe: Rhwydwaith Datblygiad Proffesiynol Gwaith Ieuenctid (Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe, 2008).
- Ymchwilio Profiadau Ymarferwyr o Brosiectau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y CyngACC (CyngACC, 2003).
Y Trydydd Sector a Darpariaeth Dysgu
- Gwerthusiad y Gronfa Risg Gymdeithasol (CGGC, 2008)
- Fframwaith Canlyniadau a Gwerthuso (NAVCA, 2009).
- Gwerthusiad o’r Corff-Cyswllt y Farchnad Llafur Gogledd Orllewin Cymru (CGGC, 2007).
- Gwerthusiad Estyn Llaw (Bwrdd yr Iaith, 2007).