Mr Antonio Barriga Rubio
Cydlynydd Ieithoedd Modern
BA (Hanes Celf), TAR
Cyswllt
Ebost: aob@aber.ac.uk
Swyddfa: Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, P5, , Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UX
Rhif Ffon: 01970 (62) 2093
Bywgraffiad
Mae fy ngyrfa yn amrywiol iawn. Cefais radd yn Hanes Celf a’m cymhwyster dysgu yn Sbaen.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach deuthum i Brydain. Dechreuais ddysgu Sbaeneg i oedolion yn adran Addysg Barhaus ym Mhrifysgol Sheffield, lle yr astudiais am Dystysgrif yr RSA mewn Dysgu Ieithoedd Tramor i Oedolion. Dilynais rai cyrsiau mewn Ieithyddiaeth, Llenyddiaeth, ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, o 1995 i 1999, enillais dwy radd Meistr, y naill mewn Ieithyddiaeth Gymwysedig a’r llall mewn Astudiaethau Cyfieithu.
O ran Ieithoedd, bûm yn gweithio am sawl blwyddyn yn dysgu Sbaeneg yn y Ganolfan Dysgu Ieithoedd Modern a’r Adran Addysg Barhaol ym Mhrifysgol Sheffield. Bûm yn gweithio hefyd yng Nghanolfan Iaith Prifysgol Hallam. Yn y Prifysgolion hyn y lluniais fy ngyrfa fel ieithydd, ac fel athro Sbaeneg; sylweddolais mor lwcus rydym ni i allu dysgu ieithoedd i bobl eraill, gan ei bod hi’n yrfa mor foddhaol. Nid yw hynny’n golygu bod y llwybr yn hawdd, ond yn sicr y mae wedi rhoi cryn foddhad imi.
Wedi imi adael Sheffield deuthum yn Gydlynydd Sbaeneg ym Mhrifysgol Huddersfield, lle arhosais am bedair blynedd. Yno cefais gyfle i ddod i Aberystwyth fel Cydlynydd Ieithoedd yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae gennym 22 o athrawon ac rydym yn dysgu 10 iaith, o Dyddewi i’r Gelli Gandryll, o Lambed i Aber.
Arholi Allanol:
Roeddwn i’n arholwr allanol y Sbaeneg ym Mhrifysgol Morgannwg o 2006 tan 2010.
Profiad Sicrhau Ansawdd:
Rhan o’r tîm Datblygu Staff yn yr Ysgol ers 2006. Rydym yn darparu hyfforddiant ac adnoddau yn ôl anghenion ein staff.
Swyddog Blackboard (Prifysgol Huddersfield )
Gwaith Cydweithredol:
Rwyf wedi trefnu gweithdai hyfforddi gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth, Datblygu Staff, Cilt Cymru a Phrifysgol Morgannwg. Roedd y gweithdy ar agor i bawb, a’u nod oedd dysgu am Dechnoleg ac Ieithoedd Modern, o ddefnyddio adnoddau sŵn yn y dosbarth i wneud y podlediad cyntaf, o weithgareddau fideo i feddalwedd cyflwyno.
Roedd y diswyddiadau hyn ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.
Rwyf yn hoff o dechnoleg yn gyffredinol, ac o dechnoleg yng nghyd-destun ieithoedd yn enwedig. Mae’n elfen bwysig iawn o’n cyrsiau. Teimlaf ei bod yn ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr os yw’r athrawon yn defnyddio adnoddau newydd, adnoddau sy’n ennyn eu diddordeb.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffotograffydd brwd.