Mr Dafydd Morse

Swyddog Datblygu Cymraeg i Oedolion
Photograph of Mr Dafydd  Morse.

Cyswllt

Ebost: dfm@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 01970 628461

Cyfrifoldebau

Darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu

Bywgraffiad

Wedi graddio o Aberystwyth yn 1988 a gwneud y cwrs TAR yn 1990, es i weithio fel athro Cymraeg a phennaeth Drama yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Bûm yno tan 2002, gan benderfynu gadael addysg a gweithio yn y sector datblygu cymunedol. Bûm yn gweithio i gwmni Curiad Caron Cyf. yn Nhregaron am ddwy flynedd a hanner cyn gweithio i Fenter Iaith Bro Teifi yng Nghastell Newydd Emlyn am ddwy flynedd ychwanegol. Dwi wedi gweithio i’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ers 2007, lle rwy’n gyfrifol am y ddarpariaeth Cymraeg yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu. Dwi’n dysgu dosbarth Cymraeg i staff y Brifysgol ar gampws Penglais.

Dwi’n briod ac mae gennym dri o blant, ac ry’n ni’n byw yng nghanolbwynt y byd, Llangeitho

Gwybodaeth Ychwanegol

Beicio, Rhedeg, Nofio, Triathlon, rygbi (gwylio erbyn nawr!), Karate. Dwi hefyd wedi dechrau garddio ychydig, gyda chanlyniadau amrywiol

Arholi Allanol:

Wedi arholi Cyrsiau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd i CBAC

Profiad Sicrhau Ansawdd:

Dwi’n rhan o dîm arsylwi tiwtoriaid CiO y Ganolfan, a hefyd yn rhan o Bwyllgor Monitro’r cwrs cenedlaethol Cymraeg i’r Teulu. Dwi’n cyfrannu at lunio Adroddiad Hunan Asesu’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion

Gwaith Cydweithredol:

Cynrychiolydd y Ganolfan Cymraeg i Oedolion ar y Gweithgor Cymraeg i’r Teulu Cenedlaethol a’r Gweithgor Cymraeg yn y Gweithle Cenedlaethol. Dwi hefyd yn Ysgrifennydd y Gweithgor Cenedlaethol Dysgu Anffurfiol.

Cyflwyniadau Cynhadledd:

Cyflwyniad ar Ddysgu Anffurfiol yng Nghynhadledd Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion 2008

Cyhoeddiadau

Wedi cyfieithu pump nofel i blant i’r Gymraeg, ac un o nofelau’r gyfres Stori Sydyn. Hefyd wedi cyfrannu erthyglau ar feirdd ardal Pontypridd i’r cyfrolau ‘Rhwng Dwy Afon’, a olygwyd gan Dafydd Pretty, a ‘Cwm Rhondda’,  a olygwyd gan Hywel Teifi Edwards